THE latest community news from Penrhyndeudraeth.

Merched y Wawr

Y MIS yma mae’r gangen wedi bod yn blasu. Yn ystod mis Medi cafwyd noson o fwynhau gwledd tri cwrs, yna mis Hydref blasu cynnyrch Cryms a mis Tachwedd blasu gwin. Cychwyn da i dymor y merched unwaith eto.

Y tro hwn y gwr gwadd oedd y Parch Marcus Robinson , gweinidog yn ardal Bethel, Llanrug, Caeathro a Brynrefail ers 10 mlynedd bellach, ond un a fu am flynyddoedd yn Gaplan yn y llynges a ddringodd i’r swydd bwysicaf yn ei faes. Yn gofi dre o’r iawn ryw, ac yn falch iawn o’i ardal enedigol, doedd dim syndod iddo ddychwelyd i’w ardal i weinidogaethu ar ddiwedd ei yrfa yn y llynges. Cafodd brofiadau lu, ac fe hyfforddodd ei hun drwy’r profiadau yma i fod yn arbenigwr ar winoedd.

Daeth yn amlwg ei fod yn adnabod y gwinoedd ac yn gallu cynghori ar y dewis â’r blasu ac yn cydnabod fod dewis y gwin iawn yr un mor bwysig a dewis y bwydydd iawn.

Er y chwerthin â’r hwyl ar y cychwyn, daeth yn amlwg fod yr aelodau yn gwrando ac yn holi yn eiddgar fel yr ai y sgwrs yn ei blaen. Cafwyd noson ddifyr ac addysgiadol iawn a chyfle i flasu gwin a hefyd gwahanol gawsiau a bisgedi sawrus. Diolch i ferched y te am y gwaith unwaith yn rhagor y mis yma.

Oes na syndod mai gwledda fydd hi unwaith eto mis Rhagfyr? Na wrth gwrs, mi fydd cinio Nadolig a chanu carolau yn clwb golff ar y 12 Rhagfyr.

Yn ystod y mis hefyd oedd cyfle i gynnal stondin yn y Ffair Nadolig yn y Neuadd Goffa, ac unwaith eto manteisiwyd ar y cyfle i godi arian at yr elusen blynyddol. Eleni, Alzheimer oedd yr elusen, a chodwyd £50 tuag ato drwy gystadleuaeth enwi’r ddwy ddol. Yr enillwyr oedd Marian Kerr a Sophie a Jane o Borthmadog (uchod). Lois oedd un ddoli a Sian oedd y llall.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]