THE latest community news from Penrhyndeudraeth
Merched y Wawr
EFO’R dyddiau’n nosi yn gynharach, y dail yn disgyn a’r tywydd yn oeri mi roedd ‘na hen edrych ymlaen at ymuno unwaith eto yng nghyfarfod mis Hydref o Ferched y Wawr.
Ymhob cyfarfod mae’n angenrheidiol i wneud ychydig o waith papur ag i anfon ein cofion at yr aelodau sy’n sâl.
Yna, heb oedi aeth Catherine Jones, ein llywydd, ati i drafod trefniadau’r cyfarfodydd nesa.
Ar gyfer aelodau sy’n hoffi cystadlu mae ‘na Gwis Cenedlaethol, Bowlio Deg yng Nglanllyn i aelodau heini a chystadleuaeth Dominos a rhain i gyd yn y misoedd i ddod.
Os mai gwaith llaw yw eich diddordeb, cynhelir Cwrs Crefft yn Llanrwst ym mis Ionawr.
Digon at ddant pawb.
Haf Llywelyn, y bardd a’r awdures enwog oedd ein gwestai y tro yma.
Ganwyd a magwyd Haf yng Nghwm Nantcol, gan dderbyn ei haddysg yn Ysgol Gynradd Llanbedr ac Ysgol Ardudwy.
Gydag arddull hollol hamddenol a chartrefol cawsom bigion o’i hoff farddoniaeth a disgrifiad o gefndir rhai o’r llyfrau mae hi wedi cyhoeddi.
‘Mab y Cychwr’ llyfr sydd wedi ei leoli yn ardal Dolgellau.
Y ‘Traeth’ - y llyfr yma wedi ei leoli yn nes atom yn Llanfrothen.
Gwelwn yn y llyfrau yma ei brwdfrydedd yn ymchwilio i hanes lleol, ond yn ‘Stwffia dy ffon Hoci’ ceir awgrym cryf nad gemau oedd ei hoff bwnc ysgol!
Yn 2013 enillodd wobr y Cyngor Llyfrau, Tir na n-Og am ei llyfr ‘Diffodd y Sêr’ yn dweud hanes Hedd Wyn o Drawsfynydd.
Heb unrhyw amheuaeth noson wych arall yn hanes y gangen.
Mae’r gangen yn ddiolchgar i Lenyddiaeth Cymru am noddi’r noson.
Mis nesa mae gennym noson hollol wahanol i chi, sef - ‘Noson blasu Cynnyrch Blasus Aerona’.
Cyfle efallai i brynu anrheg Nadolig gwahanol.
Nos Lun, 27 Tachwedd, am 7yh yn y Neuadd Goffa.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]


.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.