THE latest community news from Penrhyndeudraeth
Merched y Wawr
Roedd rhagolygwyr y tywydd yn llygaid ei lle a disgynnodd yr eira dros nos. Wrth agor y llenni trannoeth a hithau yn ddiwrnod cinio Nadolig Merched y Wawr gwelwyd nad oedd rhaid ofni. Dim ond haen dena o eira ym Mhenrhyn ag roedd y ffyrdd yn glir.
Felly anelu am Blas Tan y Bwlch, Canolfan Astudiaethau Amgylcheddol sy’n cael ei weinyddu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae’n rhaid canmol y teulu Oakeley am godi’r plas mewn safle ardderchog. I’r chwith roedd y Moelwyn yn gwisgo ei gap gwyn ag yn edrych yn hynod hardd gyda’r awyr las yn y cefndir. Gorweddai haenan dena o rew oer ar Ddyffryn Maentwrog o flaen y Plas ag roedd hyn i gyd yn ychwanegu at y naws Nadoligaidd. Nid yn unig mae’r plas yn darparu cyrsiau sydd o ddiddordeb i bawb sy’n caru cefn gwlad, ond hefyd mae’r lluniaeth a weinir yno yn ardderchog.
Erbyn hanner dydd roedd pawb yn hen barod i gladdu’r tri chwrs o ginio Nadolig, ac yna gorffen efo paned a mins pei.
I ddilyn trefnwyd adloniant gan Eirwen Langdown. Cafwyd deuawdau ar y piano – Eirwen Langdown a Helen Williams; pedwarawd yn canu – Margaret, Catherine, Helen ac Eirwen; a gorffen efo pawb yn canu carolau.
Mae adloniant yn defnyddio talent aelodau’r gangen yn fwynhad bob amser. Encore difyr dros ben, diolch i Eirwen, Catherine Margaret, Helen ag Elisabeth. Diolch hefyd i Megan Thomas am dynnu’r lluniau.
Nesaf bydd dathliad arbennig iawn. Mae Cangen Deudraeth yn 50 oed y mis hwn. Cyfle i ganu pen-blwydd hapus a hip hip hwre!
Mae rhai o’r aelodau am fod yn ddewr iawn a byddant yn gwisgo dillad y ‘60au a chawn flasu bwyd y cyfnod. Croesawir Dafydd Iwan yn ogystal â’r dysgwyr i’r parti dathlu.
Croeso cynnes iawn i gyn-aelodau i ymuno yn yr hwyl.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.