THE latest community news from Pontrhydfendigaid
Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 10 Mehefin, 11yb Ysgol Sul; 2yp Ymuno â chapel Carmel am oedfa Unedig.
Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 10 Mehefin, 2yp Gwasanaeth Undebol gyda’r Parch Andrew Lenny (Cymun).
Noson o Adloniant
AR nos Wener, 7 Medi, cynhelir noson anffurfiol ym mar Pafiliwn y Bont, yng nghwmni’r canwr a’r amaethwr o Batagonia, Alejandro Jones.
Mae Alejandro ar ymweliad â Chymru am rai misoedd, ac mae ef a’i deulu yn aros yn Llanuwchllyn.
Mae’n cynnal noswethiau mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru dros yr haf.
Bydd Dai Jones, Llanilar hefyd yn arwain y noson, a bydd bar a bwyd ar gael.
Mae’r tocynnau ar werth am £7 gan Selwyn a Neli Jones 01974 831695 neu glanrhyd@btopenworld.
Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael, felly archebwch ar unwaith!
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.