THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Carnifal

ENILLWYR y carnifal oedd: Fflôt, Ysgol Sul Rhydfendigaid (Ogof y Gwrachod); Plant oedran Grwp Ti a Fi, Sam Hughes (Sam Tân); Oedran Ysgol Feithrin, Rhys Williams (Cneifio Bont); Derbyn, Seren Fflur (Awyren RAF); Bl 1 a 2, Sara Pugh (Subaru); Bl 3 a 4, Gwawr Jenkins (D’yw Plastig ddim yn ffantastig); Bl 5 a 6, Dyfan Huws Jones (The Invisible Man).

Ysgol Uwchradd ac Oedolion, Tom Jones (Gwersylla Maes B Tregaron); Pâr, Tom Jones a Cari Davies (Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020); Dyn fel menyw/Menyw fel dyn, Ina Morgans (Charles Arch) a Heulwen Fflur Pugh (Hal Robson Canoe).

Hysbyseb i blant Cynradd ac iau, Saran Aur (Golchi dillad); Hysbyseb oedran Uwchradd ac Oedolion, Gethin Evans (Ed Sheeran a’r papur ty bach).

Y gorau o enillwyr plant cynradd ac iau, Rhys Williams (Cneifiwr Bont); Y gorau o enillwyr uwchradd ac oedolion, Tom Jones (Maes B).

Gwasanaethau

Rhydfendigaid (Presbyteriaid): Dydd Sul, 29 Gorffennaf, 2yp, ymuno â’r gwasanaeth yng ngofal y Parch Rob Nicholls yn Soar y Mynydd.

Bydd y bws yn gadael Neuadd Pantyfedwen am 12.45yp. Rhowch eich enwau i Neli (01974 831695) os am ddod.

Bydd te’n cael ei drefnu yn Y Talbot ar ôl yr oedfa.

Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 29 Gorffennaf, 2yp, Oedfa yng nghwmni Teulu Cynfal.

Ni fydd yna oedfaon yn Rhydfendigaid na Charmel yn ystod mis Awst.

Prynhawn Cymdeithasol

Cynhelir picnic neu brynhawn cymdeithasol y pentre ddydd Sadwrn, 4 Awst, yn Neuadd Pantyfedwen am 3yp.

Bydd y gystadleuaeth arferol am y bwrdd gorau wedi ei osod, ar y thema Te Dathlu Diwedd y Rhyfel Byd Cynta a chystadleuaeth Pabi Coch i blant.

Bydd pawb yn dod a’u bwyd a’u diod eu hunain, ac mae croeso cynnes i bawb.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]