THE latest community news from Pontrhydfendigaid
Gwasanaethau
Rhydfendigaid (Presbyteriaid) a Carmel (Bedyddwyr): Dim gwasanaethau yn ystod mis Awst.
Taith Yr Ysgwrn, dydd Sul, 2 Medi – sylwer y bydd y bws yn cychwyn am 9yb am fod yna newid yn y trefniadau. Am ragor o fanylion, neu os am sicrhau sedd ar y bws, cysylltwch â Neli Jones ar 01974 831695.
Coed y Bont
On Sunday, 2 September, there will be a day for the family at Coed y Bont.
‘Fun in the Woods’ will be held in the woods from 11am until 4pm, and will consist of various activities, including a teddy bears’ picnic, nature trail quiz, fire-starting, woodland craft, guided walks and bushcraft.
Everything will be free of charge, but a donation would be appreciated. The organisations involved are Llais y Goedwig, Vincent Wildlife Trust and Wildlife Trust South and West Wales.
Everyone will meet at Coed y Bont Car Park, but in case of bad weather, please check on facebook.com/coedybont first or phone 01974 831639 by 10am.
Noson Alejandro
Mae Alejandro Jones o Batagonia ar daith yng Nghymru ar hyn o bryd, ac ar nos Wener, 7 Medi (sylwer ar y dyddiad cywir), bydd yn canu ac yn dweud ei hanes ym Mar Pafiliwn Pontrhydfendigaid am 7.30yh.
Yn ogystal ag Alejandro, bydd Dai Jones, Llanilar, yn llywio’r noson. Mae nifer cyfyngedig o docynnau ar gael am £7. Ffoniwch 01974 831695 i sicrhau tocyn, ac mae yna docynnau ar gael yn Siop y Bont hefyd.
Cyngerdd Dathlu
Bydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn dathlu 20 mlynedd o fodolaeth gyda chyngerdd arbennig ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar nos Sadwrn, 1 Medi.
Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan bydd rhai o enillwyr cystadleuaeth y gymdeithas dros yr 20 mlynedd – y tenor Aled Wyn Davies Llanbrynmair, Côr Caerdydd, Ensemble Lleisiol Ger y Lli Aberystwyth, Ensemble Edern o Ynys Môn, a Chôr Crymych, gyda mwy o artistiaid i’w cadarnhau.
Arweinydd y noson fydd Garry Owen. Mae tocynnau ar gael o Siop y Smotyn Du, Llanbed; Siop y Pethe a Siop Inc, Aberystwyth; Anrhegaron a Medical Hall, Tregaron; Siop y Bont, Pontrhydfendigaid; neu Selwyn a Neli Jones, 01974 831695. Bydd y noson yn cychwyn am 7yh, a phris tocynnau yw £10, gyda phlant oedran cynradd yn cael mynediad am ddim a phlant oedran uwchradd am £5.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.