THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Gwasanaethau

Rhydfendigaid (Presbyteriaid): Dydd Sul, 21 Ionawr – 10yb, Parch J E Wynne Davies (Oedfa Gymun). 11yb – Ysgol Sul.

Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 21 Ionawr – 2yp, Dr Rhidian Griffiths.

Eisteddfod 2020

Cynhaliwyd cyfarfod Cronfa Leol ardaloedd Ystrad Fflur ac Ystrad Meurig ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2020 yn Neuadd Pantyfedwen nos Iau 10 Ionawr, pryd y cafwyd cefnogaeth dda iawn.

Y digwyddiad cynta i godi arian fydd Noson Bingo yng Nghanolfan Edward Richard, Ystrad Meurig nos Wener 18 Ionawr am 7.30yh.

Croeso cynnes i bawb i ymuno mewn noson llawn hwyl.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]