THE latest community news from Pontrhydfendigaid
Merched y Wawr
CYNHALIWYD cyfarfod ola’r tymor Merched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch ar nos Fawrth 7 Mai yn Llyfrgell Neuadd Pantyfedwen. Croesawodd y Llywydd, Jasmine Wilson bawb i’r cyfarfod a diolchodd i bawb a wnaeth ei chefnogi yn ystod ei thymor fel Llywydd y gangen.
Etholwyd swyddogion newydd ar gyfer 2019/2020, sef: Llywydd – Joan Davies, Is-lywydd – Myfanwy Huws, Ysgrifennydd – Jên Ebenezer, Trysorydd – Elen Jones, Dosbarthydd y Wawr – Llinos Jones, Gohebydd y Wasg – Neli Jones. Diolchodd Joan i Jasmine am ei gwaith yn ystod y flwyddyn, a dymunwyd gwellhad buan i Myfanwy Huws sydd yn anhwylus ar hyn o bryd. I orffen y noson, cafwyd Bingo, ac aeth sawl aelod adre’n llwythog! Enillwyd gwobr y raffl gan Joan Davies. Edrychir ymlaen nawr at y Trip Dirgel a gynhelir ar 7 Mehefin.
Dramau
Cynhaliwyd noson o ddramau yn Neuadd Pantyfedwen ar nos Sadwrn 18fed o Fai. Noson wedi ei threfnu gan griw G?yl Ddrama Gogledd Ceredigion oedd hon, gyda dwy ddrama’n cael eu perfformio – Cwmni Licris Olsorts yn cyflwyno “Y Fainc” gan Emyr Edwards a Chwmni Dinas Mawddwy yn cyflwyno “Pwy yw dy gymydog?” gan Ifan Gruffydd. Llywydd Anrhydeddus y noson oedd Charles Arch, a chafwyd ganddo sgwrs ddifyr i agor y noson. Cyflwynwyd Charles a’r cwmniau drama gan Selwyn Jones. Roedd yn hyfryd gweld cymaint o bobl wedi dod ynghyd o wahanol ardaloedd er fod yna ddigwyddiad eraill yn digwydd bod ar yr un noson. Mae G?yl Ddrama Gogledd Ceredigion yn garedig iawn yn rhoi canran o elw’r noson i gronfa leol Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020, ynghyd â thâl y raffl a’r lluniaeth a werthwyd ar y noson.
Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul 26 Mai – 2p – Ymweliad â Soar y Mynydd gyda Lyn Ebenezer yn pregethu. Bydd bws mini yn gadael Neuadd Pantyfedwen am 12.45. Rhowch eich enwau i Neli (01974 831695).
Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul 26 Mai – Cyfle i ymuno â gwasanaeth Soar y Mynydd.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.