THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid) - 15 Medi: 10yb, Parch Lewis Wyn Daniel; 11yb, Ysgol Sul.

Carmel (Bedyddwyr) - 15 Medi: Cwrdd Gweddi.

Rhydfendigaid

CYNHALIWYD y trip blynyddol ar ddydd Sul, 1 Medi.

Roedd yn braf cael cwmni aelodau Rhydfendigaid a Charmel yn ogystal ag Elwys y Santes Fair a ffrindiau o Dregaron.

Cychwynwyd ar ôl oedfa gymun o dan ofal y Parch Elwyn Pryse, gyda Nerys Williams yn gyrru’r bws, fyny i gyfeiriad Llanbadarn Fawr gan godi Hefin Jones yn y fan honno, ac ymlaen i Fachynlleth a chael cyfle i gael paned.

Cyrhaeddwyd Dolwar Fach, cartref yr emynyddes Ann Griffiths a chael croeso mawr gan y perchennog, T J Davies. Diolchodd Charles Arch iddo ar ran y cwmni, a chafwyd cyfle i dynnu lluniau o flaen y t? fferm.

Wedi hynny, aed yn ôl am Lanfihangel yng Ngwynfa i weld yr eglwys hynod, lle cafwyd cyfle i ganu ‘Wele’n sefyll wrth y myrtwydd’ i gyfeiliant Neli ar yr organ hynafol a oedd yno, ac yna i’r fynwent lle gwelwyd bedd Ann Griffiths.

Y gyrchfan ola, oedd ymweliad â chapel enwog John Hughes ym Mhontrobert, lle cafwyd croeso cynnes gan yr hanesydd Nia Rhosier sydd yn gofalu am y capel hanesyddol.

Cafwyd sgwrs ddifyr yn ei chwmni a chael cyfle i weld yr arddangosfa hynod a oedd yno, gyda’r pulpud gwreiddiol yn haeddu’r lle canolog.

Cyn ymadael, canwyd un arall o emynau Ann Griffiths gyda’r hen harmoniwm yn y capel yn gyfeiliant addas. Diolchodd Lyn Ebenezer am y croeso a’r gwmniaeth a chafwyd cyfle i dynnu rhagor o luniau.

Wedi hyn i gyd, roedd yn amser swper, a mwynhawyd pryd blasus tu hwnt yng ngwesty’r Wildfowler yn Nhre’r-ddôl, pryd y diolchodd Neli Jones i bawb am eu cwmniaeth yn ystod y dydd, i’r gwesty am y pryd bwyd ac i Nerys am ei gyrru gofalus ar hyd heolydd bach cul sir Drefaldwyn!

Edrychir ymlaen nawr at drip y flwyddyn nesa a fydd yn cael ei drefnu gan Gapel Carmel.

Eisteddfod 2020

MAE’R Noson Werin a oedd i’w chynnal ar 27 Medi yng nghyntedd y Pafiliwn wedi’i gohirio, a bydd y noson yn cael ei chynnal yn Y Talbot, Tregaron ar nos Sadwrn, 29 Chwefror, gyda rhagor o fanylion i ddilyn.

Bydd cyfarfod o bwyllgor Cronfa Leol Ystrad Fflur ac Ystrad Meurig yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Neuadd Pantyfedwen nos Iau, 12 Medi am 7.30yh. Croeso cynnes i bawb.

Pantyfedwen Hall

THE annual Pantyfedwen Hall fair will be held on Wednesday, 25 September (the date of the original ‘Ffair Rhos G?yl Grog’).

The local societies will be holding miscellaneous stalls, there will be light refreshments and raffle.

Coed y Bont

ON Tuesday, 17 September at Pantyfedwen Hall, between 7.30pm and 9pm, there will be a talk about ‘The Pine Martens back in Midwales’, by David Bavin, Pine Marten officer for Wales, when he will have the latest about what’s happening in Coed y Bont and the area.

The evening will be chaired by Chris Harris.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]