THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid) - dydd Sul, 24 Tachwedd: 10yb, Parch Wyn Morris; 11yb, Ysgol Sul.

Carmel (Bedyddwyr) - dydd Sul, 24 Tachwedd: 2yp, Beti Griffiths.

Merched y Wawr

DECHREUWYD tymor newydd Merched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch yn Ffair y Ganolfan, neu Ffair Rhos G?yl Grog, a gynhaliwyd yn y neuadd ar 25 Medi. Roedd stondin gacennau Merched y Wawr a oedd yng ngofal y swyddogion yn llwyddiant fel arfer. Diolch i’r aelodau a gyfrannodd gacennau ac i Eleri Arch ac Ann Williams am baratoi hamper hyfryd ar gyfer y raffl.

Yng nghyfarfod mis Hydref cafwyd cyfle i ymaelodi ac i chwarae bingo, gyda bron bob un yn mynd adref gyda gwobr. Paratowyd y te gan Margaret Jones a Llinos Jones, ac enillwyd gwobr y raffl gan Ann Williams.

Cynhaliwyd cyfarfod mis Tachwedd ar y 5ed, sef noson yng ngofal Mari Arch a Neli Jones. Yn anffodus, method y wraig wadd a bob yn bresennol ar y funud ola’, oherwydd anhwylder, ond edrychir ymlaen at gael cwmni Gill Ogden, gweinyddydd Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur yn y dyfodol agos. Trafodwyd busnes, gan wneud nifer o drefniadau a thrafod dros baned a oedd wedi ei drefnu gan Mari a Neli.

Enillwyd gwobrau’r raffl gan Mari Arch a Jên Ebenezer. Bydd noson mis Rhagfyr yn noson agored yn Neuadd Pantyfedwen, yng nghwmni perchnogion siop Anrhegaron, Tregaron, sef Nerys a David Bennett, pryd y byddant yn arddangos eu nwyddau Nadoligaidd ymhlith pethau eraill.

Croeso cynnes i bawb i’r noson sy’n cael ei threfnu gan Jên Ebenezer ac Ann Williams. Bydd cyfle i brynu anrhegion Nadolig ar y noson, a bydd cangen Merched y Wawr Llanilar yn ymuno â ni.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]