THE latest community news from Pontrhydfendigaid
Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid) dydd Sul, 23 Chwefror: 11yb, Ysgol Sul; 2yp, ymuno â Chapel Carmel gyda’r Parch Peter M Thomas yn pregethu.
Carmel (Bedyddwyr) - dydd Sul, 23 Chwefror: 2yp, Parch Peter M Thomas (Gwasanaeth Cymun).
Y Beudy, Strata Florida
ON Thursday, 27 February, at 7pm, David Parsons will be holding an evening of Welsh Place and House Names.
Contact Gill – [email protected]. uk – 01974 282771 for more information.
A warm welcome is extended to all.
Merched y Wawr
CYNHALIWYD cyfarfod ar 4 Chwefror yn Ystafell Chwaraeon Neuadd Pantyfedwen.
Roedd y noson yng ngofal Myfanwy, Elen a Del, a Myfanwy groesawodd bawb i’r cyfarfod.
Y wraig wadd oedd Mari Elin Jones, yn wreiddiol o Flaenpennal.
Mae Mari, wedi iddi gael ei chyflyru gan raglenni natur Syr David Attenborough yn ymddiddori yn y byd di-blastig ac yn ymgyrchu i geisio cael pawb i fyw’n fwy gwyrdd.
Mae wedi ysgrifennu llyfr diddorol o’r enw Gwyrddach, ac yn hybu cynnyrch ymolchi a harddwch a chynnyrch glanhau eco-gyfeillgar eu natur.
Dangosodd hefyd y grefft o wneud gorchuddion bwyd gan ddefnyddio darnau o gotwm a chwyr gwenyn, yn lle defnyddio’r ‘cling-film’ arferol.
Diolchodd Del i Mari am ei chwmni ac am noson hyfryd a oedd yn agoriad llygad.
Roedd y te yng ngofal Myfanwy, Elen a Del ac enillwyd gwobrau’r raffl gan Mari Elin a Del.
Noson Gaws a Gwin
CYNHALIWYD noson o Gaws a Gwin yng ngofal Charles Arch ar nos Sadwrn, 8 Chwefror yn Neuadd Pantyfedwen.
Daeth tyrfa dda ynghyd a chafwyd noson hwyliog iawn yng nghwmni’r gr?p o fechgyn o Landdewi Brefi, Bois y Rhedyn.
Cafwyd rhaglen amrywiol o ganu a sgetsus ganddynt, gyda Delyth Lloyd Jones yn cyfeilio.
Yn ystod y noson, gwerthwyd llun o Ystrad Fflur, a welir uchod, a oedd wedi ei gomisiynnu gan Charles ac a noddwyd gan NFU Cymru ar ocsiwn, gyda’r arwerthwr poblogaidd o Morgan a Davies, Andrew Morgan yn gwerthu.
Gwerthwyd y llun i Ifor Lloyd o Bennant am y swm o £2,100.
Roedd yn hyfryd cael cwmni’r artist, Aneurin Meirion Jones a’i briod, hefyd cynrychiolydd o NFU Cymru, a’i briod ar y noson. Gwerthwyd hefyd brint gan Rhiannon Roberts ar yr ocsiwn.
Bydd elw’r noson yn mynd tuag at gronfa Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]