THE latest community news from Pontrhydfendigaid.
Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 11 Mawrth: 10yb, Cwrdd Gweddi; 11yb, Ysgol Sul. Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 11 Mawrth, 2yp, Oedfa yng ngofal Joan Evans.
Services
STRATA Florida Churches (Church in Wales): Sunday, 11 March, 2pm, Holy Eucharist at St Mary’s Church.
Rhydfendigaid
DATHLWYD Gwyl Ddewi fore Sul, 4 Mawrth, gyda phlant yr Ysgol Sul yn cymryd at y gwasanaeth yng nghwmni’r Parch Lewis Wyn Daniel.Roedd y capel wedi ei addurno’n bwrpasol ar gyfer yr achlysur, gyda’r holl Gennin Pedr, baner Dewi Sant a baneri Draig Goch.Dechreuwyd gyda defosiwn, ac yna cafwyd cyngerdd Gwyl Ddewi, gydag eitemau amrywiol o unawdau telyn a ffliwt, llefaru i gyfeiliant y delyn, unawdau, partion llefaru a chanu, a deuawd. Cymerwyd rhan gan Dion Wyn Jones, Dwynwen, Rhiannon, Emrys, Buddug ac Anest Jones, Cari a Delun Davies, Megan a Mari Herberts, Gethin a Gwenno Evans, Gwenno Humphreys, Saran Aur Cerith, Lleucu Jones, Cain a Jess Owen, Gwawr ac Iestyn Jenkins, Ianto Wilcocks a Caio MacParthaláin.Cafwyd anerchiad ar y thema, ac hefyd unawd am Dewi Sant gan y Parch gyda’r plant yn ymuno ag ef yn y gytgan. Gwnaed casgliad tuag at apêl Cymdeithas y Beiblau gan Gwenno Humphreys a Mari Herberts.Mae athrawon yr Ysgol Sul, Jean Williams, Neli Jones ac Ann Williams, am ddiolch i’r plant a’r rhieni, ac i Parch Lewis Wyn Daniel am eu hymroddiad, a diolch i bawb o’r dyrfa luosog a oedd yn bresennol am eu cefnogaeth arferol.
THE WI celebrated St David’s Day with a cawl lunch at The Black Lion Hotel where members brought “unusual” dragons for a competition.The dragons were made from various media and included a dragon oil lamp, a dragon-topped cake, a bookmark, a piggy bank and Tarragon – the gentle dragon! The WI meets on the first Wednesday of most months at 1.30pm in Pantyfedwen Hall. Ladies of all ages are welcome. April’s meeting will include gentle chair yoga.Contact Wilma on 01974 831068 for further information.
Whist drive
A WHIST drive will be held at Pantyfedwen Hall on Wednesday, 8 March, at 8pm, with the proceeds going towards the Blood Bikes Wales charity. A warm welcome to all.
Parc Angharad
THE next bag collection will be on Tuesday, 14 March, at 9am at Parc Angharad, for the spring collection of your unwanted clothes, shoes and bags. Contact Clare Hughes on 01974 831433 for details.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.