THE latest community news from Pontrhydfendigaid
Cwn Defaid
CYNHALIWYD Treialon Cwn Defaid blynyddol y Bont ar ddydd Mercher, 6 Medi.
Cafwyd tywydd braf, gydag 84 o gwn yn cystadlu, rhai o Ganada, Ffrainc ac Iwerddon.
Cafwyd geiriau caredig gan gadeirydd y pwyllgor, T B Rees, a diolchodd i bawb a fu’n cynorthwyo i wneud y treialon yn llwyddiant eleni eto.
Y beirniad oedd John Lewis, Trefaes Uchaf yn cael ei gynorthwyo gan ei briod.
Rhoddwyd cwpan cystadleuaeth Dull De Cymru gan Cari, Delun a Guto Davies, Dolyrychain, a chwpan y gystadleuaeth Cenedlaethol Agored gan Richard a Gareth Rees, Awel-y-Grug, Tregaron er cof am, eu mam, Gwenno Rees (Dolbeudiau gynt).
Canlyniadau dull De Cymru Agored: 1 Irwel Evans a Bob (5); 2, 3 a 4 (cydradd) Emyr Lloyd a Fly (6), I B Jones a Bella (6), ac Eirian Morgan a Spot (6); 5 John Price a Tess (7).
Dull Cenedlaethol Agored: 1 Gareth Davies a Ladd (10), 2 Emyr Lloyd a Fly (13), 3 Erwyd Howells a Spot (15), 4 Alistair Lyttle a York (16), 5 Eirwen Price a Peg (19), 6 Daniel Jarman a Pero (22).
Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 24 Medi: 10yb, Parch Elwyn Pryse; 11yb, Ysgol Sul.
Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 24 Medi, 2yp, Parch Wyn Rhys Morris.
Services
STRATA Florida Churches (Church in Wales): Sunday, 24 September, 2pm, Evening Prayer at St Mary’s Church.
Ffair y Ganolfan
CYNHELIR ffair flynyddol Neuadd Pantyfedwen, sef Ffair Rhos Gwyl Grog yn Neuadd Pantyfedwen nos Lun, 25 Medi am 7yh.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.