Cynhaliwyd yr eisteddfodau eleni eto dros benwythnos Gŵyl y Banc. Agorwyd y cystadlu ar y nos Wener gyda chystadlaethau’r bobl ifanc. Gwawr Owen oedd y beirniad yn yr adran gerdd a chroesawyd Nest Jenkins i feirniadu’r llefaru am y tro cyntaf eleni. Hefyd am y tro cyntaf eleni yn cyfeilio roedd Manon Fflur Jones.

Agorwyd y cystadlu ar y bore Sadwrn gyda’r plant lleiaf gyda nifer fawr yn cystadlu ar yr unawdau, y llefaru, y cerdd dant a’r alaw werin drwy gydol y dydd. Geunor Roberts oedd y beirniad cerdd dant ac alaw werin a Gwawr Taylor oedd y delynores.
Ar ddechrau seremoni’r Coroni, cafwyd terynged i’r diweddar Dr Ted Jones, y cyn ysgrifennydd llên, gan John Jones a diolchwyd i’r teulu am roi coron y diweddar Dafydd Jones, Ffair Rhos, i’r eisteddfod. Y beirniaid yn yr ardan lenyddiaeth eleni oedd Gwyneth Glyn a’r Prifardd Twm Morys a daeth Dilwyn Jones o’r Eglwys Newydd, Caerdydd i’r brig gan ennill y goron am yr ail flwyddyn yn olynol. I gloi’r seremoni, rhoddwyd gair o ddiolch gan Delyth Hopkins Evans i Neli Jones am ei blynyddoedd o waith fel ysgrifennydd cyffredinol yr eisteddfod a chyflwynwyd rhodd o flodu iddi fel cydnabyddiaeth fechan am ei chyfraniad di-flino dros y blynyddoedd. Croesawyd hefyd yr Ysgrifennydd Cyffredinol newydd, sef Carys Ann Davies gan ddymuno’n dda iddi gyda’r gwaith.
.jpeg?trim=94,0,242,0&width=752&height=500&crop=752:500)

Eleni eto cafwyd noson lwyddiannus iawn yng nghystadleuaeth Sadwrn y Sêr gyda nifer yn cystadlu ar yr unawd dan 25 oed, yr unawdau o sioe gerdd a’r cyflwyniad dramatig. Yn ymuno gyda Nest Jenkins i feirniadu oedd y gantores Bethan Dudley Fryar. Enillydd Cwpan Her Parhaol Moc Morgan am berfformiad gorau’r noson oedd Miriam Llwyd Davies o Landre, Aberystwyth.
Wedi’r oedfa undebol yng Ngapel Carmel ar y bore Sul, dechreuwyd eto ar y cystadlu yn y pafiliwn. Llywyddion yr ŵyl eleni oedd Sian a Ceri Davies, Cwmann a chafwyd araith bwrpasol gan y ddau. Yn dilyn hyn, cynhaliwyd seremoni’r Cadeirio a arweiniwyd gan John Jones. Y bardd buddugol oedd Iwan Morgan o Gwm Cynfal.


I gloi’r penwythnos, cynhaliwyd Talwrn y Beirdd yng nghyntedd y pafiliwn yng ngofal John Jones gyda Gwyneth Glyn a Twm Morys yn beirniadu ac yn rhoi cân neu ddwy fel syrpreis ychwanegol. I agor y noson, cafwyd seremoni i gyflwyno Tlws yr Ifanc. Cafwyd 25 o geisiadau i gyd, a’r enillydd oedd Hari Del Griffiths o Landdewi Brefi.
Daeth pump o dimau i gystadlu yn y Talwrn eleni a chafodd y gynulleidfa wledd wrth wrando ar gynigion y beirdd i gyd. Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Farddol Caerfyrddin am ddod i’r brig.


Hefyd fel rhan o’r noson, lansiwyd cyfrol o farddoniaeth gan Lyn Ebenezer. Mae Cerddi’r Ystrad yn gasgliad o gerddi amrywiol gan y bardd a’r awdur o’r Bont a darllenwyd ambell gerdd o’r gyfrol gan Lyn ei hun. Cafodd Lyn dipyn o sioc hefyd wrth i Garmon Gruffydd o’r Lolfa gyflwyno Gwobr arbennig Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru iddo am gyfraniad oes i fyd llyfrau. Llongyfarchaidau mawr i Lyn a diolch iddo am ei gyfraniad sylweddol fel awdur, bardd a darlledwr.
Diolch i bawb a fuodd yn trefnu, gwirfoddoli a chefnogi’r eisteddfod mewn unrhyw ffordd ac edrychwn ymlaen i’ch croesawi eto i’r eisteddfod y flwyddyn nesaf.


Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen - Pontrhydfendigaid
Enillwyr
Parti Canu oedran Cynradd: 1. Adran yr Urdd, Aberystwyth. 2. Ysgol Mynach. 3. (cydradd) Ysgol Pontrhydfendigaid ac Ysgol Henry Richard. Parti Llefaru oedran Cynradd: 1. Ysgol Mynach. 2. Ysgol Henry Richard. 3. Ysgol Pontrhydfendigaid. Côr Plant oedran Cynradd: 1. Adran yr Urdd, Aberystwyth. 2. Ysgol Henry Richard. 3. Ysgol Pontrhydfendigaid. Ymgom oedran Cynradd: 1. Ysgol Mynach. Ymgom Oedran Uwchradd: 1. Ela a Lois, Ysgol Henry Richard. 2. Guto a Delun Davies, Pontrhydfendigaid. Parti Canu oedran Uwchradd: 1. Parti Merched Ysgol Henry Richard. 2. Parti Bechgyn Ysgol Henry Richard. Parti Llefaru oedran Uwchradd: 1. Ysgol Henry Richard. 2. Ysgol Henry Richard. Unawd Offerynnol blwyddyn 6 ac iau: 1. Gruffydd Davies, Llandyfyriog. 2. Annes Euros, Chwilog. 3. Arthur Sion Evans, Taregaron. Unawd Offerynnol blynyddoedd 7, 8 a 9: 1. Levi Spooner, Llanddewi Brefi. 2. Angharad Thomas, Llangwyryfon. 3. Hywyn Euros, Chwilog. Côr neu Barti Canu Agored: 1. Merched Soar, ardal Tregaron. 2. Parti Mish-Mash ardal Tregaron. Côr neu barti Llefaru Agored: 1. Drudwns Aber, ardal Aberystwyth. Unawd Offerynnol blwyddyn 10 a throsodd: 1. Jacob Williams, Ysgol Penglais. 2. Elenor Nicholas, Aberystwyth. 3. Alwena Mair Owen, Llanllwni. Ensemble Offerynnol: 1. Grŵp Pres Aberystwyth. Enillydd Gwobr Goffa Goronwy Evans i’r Chwaraewr Pres gorau: Jacob Williams.
Unawd blwyddyn 2 ac iau: Ifan Morris, 2. Greta Marged Wyn, 3. Trefor Davies, Llanddewi Brefi. Llefaru Blwyddyn 2 ac iau: 1.Ifan Morris, 2. Trefor Davies, Llanddewi Brefi. 3. Jano Jones, Ystrad Meurig. Unawd blwyddyn 3 a 4: 1. Annes Euros, 2. Neli Evans, Talgarreg. Gwen Marged Evans, Tregaron. Llefaru blwyddyn 3 a 4 : 1. Neli Evans. Annes Euros. 3. Mari Dalton. Unawd blynyddoedd 5 a 6: 12. 1. Nel Edwards Phillips, Bethania. 2. Arthur Sion Evans, Tregaron. 3. Nanw Melangell Griffiths Jones, Cwrtnewydd. Llefaru blynyddoedd 5 a 6: 1. Arthur Sion Evans. 2. Gruffydd Davies, 3. Dyfan Thomas Williams a Nanw Melangell Griffiths Jones (cydradd). Unawd Alaw Werin blynyddoedd 5 a 6: 1. Gruffydd Davies. 2. Nanw Melangell Griffiths Jones. 3. Alana Sisto ac Elysteg Owen Cary (cydradd). Unawd Cerdd Dant blwyddyn 6 ac iau: 1. Nanw Melangell Griffiths Jones. 2. Cari Calan Edwards, Bronant. 3. Annes Euros. 3. Neli Evans. Unawd blynyddopedd 7-9: 1. Elen Fflur.2. Annest Gwilym.3. Ella Gwen. Llefaru blynyddoedd 7-9: 1. Celyn Davies, Llandyfyriog. 2. Magw Fflur Thomas, Llandysul. 3. Elen Fflur. Unawd blynyddoedd 10-13: 1. Ela Mablen Griffiths Jones. 2. Erin Llwyd. 3. Hawys Grug Owen Casy. Llefaru oedran blyntyddoedd 10-13: 1. Elin Williams, Tregaron.2. Hawys Grug Owen Casy. 3. Erin Llwyd. Unawd Cerdd Dant blynyddoedd 7-13: 1. Ela Mablen Griffiths Jones. 2. Fflur McConell, 3. Erin Llwyd ac Annes Gwilym (cydradd). Unawd Alaw Werin blynyddoedd 7-13: 1. Ela Mablen Griffiths Jones. 2. Fflur McConnell. 3 (cydradd): Hawys Grug Owen Casy ac Elen Fflur. Unawd Cerdd Dant Agored: 1. Elain Iorwerth, Trawsfynydd.2. Ela Mablen Griffiths Jones. 3. Daniel O’Callaghan, Pwll Trap. 4. Manon Mai Rhys-Jones, Ystrad Meurig. Unawd Alaw Werin Agored: 1. Daniel O’Callaghan. 2. Elain Iorwerth. 3. Fflur McConell. Unawd o Sioe Gerdd, Opera Ysgafn neu Ffilm i rai dan 19 oed: 1. Miriam Llwyd Davies, Llandre. 2. Fflur McConnell. 3. Erin Llwyd. Llefaru dan 25 oed 1. Elin Williams, 2. Elain Iorwerth. 3. Erin Llwyd. 4 (cydradd): Mari Williams, Tregaron a Magw Fflur Thomas, Llandysul. Unawd dan 25 oed: 1. Clara Greening, Cwmbran. 2. Ffion Mai Thomas, Crymych. 3. Caitlin Hockley, Caerdydd. 4. Tomos Heddwyn Griffiths, Trawsfynydd. Unawd allan o Sioe Gerdd, Opera Ysgafn neu Ffilm – Agored: 1. Elain Iorwerth. 2. Clara Greening. 3. Caitlin Hockley a Daniel O’Callaghan (cydradd). 4. Tomos Heddwyn Griffiths. Cyflwyniad Dramatig Unigol - Agored: 1. Miriam Llwyd Davies. 2. Magw Fflur Thomas, Llandysul. 3. Erin Llwyd ac Ela Mablen Griffiths Jones (cydradd). Enillydd Cwpan Her Parhaol Moc Morgan am berfformiad gorau’r noson: Miriam Llwyd Davies.
Deuawd Agored: Barry Powell, Llanfihangel y Creuddyn a Dewi Sion Evans, Tregaron. 2. Marianne Jones Powell, Llandre a Glenys Jenkins, Talybont. 3. Mari Dalton a Nel Edwards Phillips. 4. Cari Calan Edwards ac Arthur Sion Evans, Tregaron. Unawd Gymraeg: 1. Rhys Maelgwyn Evans, 2. Robin Gruffydd Hughes. 3. Caitlin Hockley. 4 Barry Powell a Gwynne Jones (cydradd). Canu Emyn dros 60 oed: 1. Gwynne Jones, Llanafan. 2. Trefor Pugh, Trefenter. 3. Vernon Maher, Llandysul. 4. Marianne Jones Powell. Llefaru Unigol o’r Ysgrythur: 1. Erin Llwyd. 2. Huw Roberts. Unawd Oratorio: 1. Ffion Mair Thomas, Crymych. 2. Caitlin Hockley, Caerdydd. 3. Robin Gruffydd Hughes, Pwllheli. 4. Barry Powell. Prif Lefarydd Unigol Agored: 1. Erin Llwyd. 2. Sulwen Davies, Drefach. Her Unawd dros 25 oed: 1. Robin Gruffudd Hughes, Pwllheli. 2. Barry Powell. 3. Robert Jenkins, Llanfihangel ar Arth, 4. Rhys Maelgwyn Evans. 5. Marianne Jones Powell.
Y Goron: Dilwyn Jones, Caerdydd. 2. Y Gadair: Iwan Morgan, Cwm Cynfal. Tlws yr Ifanc: 1. Hari Del Griffiths, Lladdewi Brefi. 2. Elin Williams, Tregaron. 3. Carys Ellis Jones. Emyn: 1. Arwel Emlyn Jones, Rhuthun.2. Myfanwy Roberts, Llanrwst. 3. John Meurig Edwards, Aberhonddu. Englyn: 1. Iwan Morgan. 2. Martin Huws, Caerdydd. 3. Arwel Emlyn Jones, Rhuthun. Cywydd: 1. Arwel Emlyn Jones. 2. Alan Iwi, Didcot. 3. Emyr Jones, Caerdydd. Stori Fer: 1. H M Roberts, Llandaf. 2. Iona Evans, Pandy Tudur. Soned: 1. H M Roberts. 2. Martin Huws. 3. Arwel Emlyn Jones. Talwrn y Beirdd 1. Ysgol Farddol Caerfyrddin. 2. Beirdd Benywaidd Ffair Rhos. 3. (cydradd): Talybont, Dynion Ffair Rhos a Thȋm Y Vale.
















