THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Pantyfedwen Hall

UNFORTUNATELY, due to the problem of illegal parking, the Pantyfedwen Hall gates will have to be locked as from the 20 December.

The gate will, however, be opened for anyone using the Community Centre’r facilities.

Lansio Llyfr

BYDD Lyn Ebenezer yn lansio ei gyfrol ddiweddaraf, Y Meini Llafar yn Neuadd Pantyfedwen ar nos Wener, 1 Rhagfyr, am 7yh.

Bydd y noson yng nghwmni Lyn Ebenezer a Selwyn Jones, gydag adloniant byw a gwin ar gael.

Mae’r mynediad am ddim, ac mae croeso cynnes i bawb.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â [email protected] 01970 832304.

Goleuo’r Goeden

BYDD coeden Nadolig y gymuned yn cael ei goleuo gan deulu Herberts, Dolfawr yn Neuadd Pantyfedwen nos Wener, 8 Rhagfyr, am 6.30yh.

Bydd adloniant gan ddisgyblion yr ysgol gynradd, stondinau nwyddau Nadoligaidd, mins peis, diodydd cynnes, canu carolau ac ymweliad gan Sion Corn.

Y tâl mynediad fydd £2 i oedolion, £1 i ddisgyblion oedran uwchradd a phlant oedran cynradd yn cael mynediad am ddim.

Croeso cynnes i bawb – ewch i fwynhau noson i’r teulu oll.

Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 3 Rhagfyr – 10yb – Parch Lewis Wyn Daniel (Cymun); 11yb – Ysgol Sul.

Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 3 Rhagfyr – 2yp – Oedfa yng nghwmni teulu Llwynmwyn.

Services

STRATA Florida Churches (Church in Wales): Sunday, 3 December, (Readings and Carols 1st Advent) – 2pm – Combined service with Rev Aled Lewis at St John’s Church, Ystrad Meurig, with refreshments to follow.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]