THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Gwasanaethau

Rhydfendigaid (Presbyteriaid): Dydd Sul ,15 Ebrill: 2yp Gwasanaeth yr Ofalaeth yng Nghapel Swyddffynnon, gyda’r Parch Wyn Rhys Morris yn pregethu.

Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 15 Ebrill: 2yp Lyndon Lloyd.

Musical

The following were successful in the Spring Examinations of the Associated Board of the Royal Schools of Music: Theory: Grade 1: Elain Grug Jenkins, Devil’s Bridge (Distinction, with full marks); Elliw Wyn Rees Jenkins, Devil’s Bridge. Grade 2: Alaw James, Lledrod (Distinction with 97 marks); Elin Medi Williams, Tregaron (Distinction with 95 marks). Piano exams: Prep Test: Buddug Jones, Gwnnws; Lleucu Jones, Pontrhydfendigaid; Cain Owen, Swyddffynnon. Grade 1: Gethin Bennett, Tregaron. Grade 6: Catrin Lloyd, Tregaron.

Rhydfendigaid

Methwyd cynnal y Gwasanaeth Gwyl Dewi arferol gan y plant eleni, oherwydd yr eira mawr, ond cynhaliwyd Gwasanaeth Sul y Pasg gan blant yr Ysgol Sul ar 1 Ebrill.

Roedd yr holl wasanaeth yng ngofal y plant.

Cafwyd rhaglen amrywiol o ddarlleniadau, gweddïau, deuawd, parti deulais, parti canu’r plant lleiaf a dau ddatganiad gan y côr cyfan.

Yn anffodus, method y Parch Lewis Wyn Daniel a bod yn bresennol, ond cofiodd yn dda am y plant trwy anfon Wyau Pasg ar gyfer pob plentyn ac aelod ifanc.

Gwnaed casgliad tuag at Gymdeithas y Beiblau yn ystod y gwasanaeth.

Dydd Sadwrn, 7 Ebrill, cynhaliwyd Ffair Wanwyn flynyddol Chwiorydd Rhydfendigaid yn y festri.

Roedd yn fore llwyddiannus iawn.

Agorwyd y ffair gan Nerys Evans, Gwesty’r Marine, Aberystwyth.

Cyflwynwyd hi gan lywydd y Chwiorydd, Neli Jones, gan estyn croeso cynnes iddi hi a’r chymar, Gareth Davies, ac roedd yn hyfryd cael cwmni’r ddau drwy’r bore. Cyflwynwyd basged o flodau’r gwanwyn i Nerys gan ei nith, Meleri Jones, Pengraig gynt.

Coed y Bont

Big changes may be coming to Coed y Bont arising from the disease that is affecting larch trees across the country.

If the larch has to be taken out of Coed y Bont this will have a significant effect on people’s use of the woodland, by limiting access during operations and impacting on the scenery.

It will also have a long-term effect on the woodland environment and its wildlife.

In order to explain what could happen, the Coed y Bont group and Natural Resources Wales are holding a drop-in session on 19 April between 2pm and 7pm at the Pantyfedwen Hall. Experts from NRW will be present to answer any questions.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]