THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 22 Ebrill: 10yb Huw Roderick; 11yb Ysgol Sul; 3yp a 6yh Y Gymanfa Ganu yng Nghapel Bwlchgwynt, Tregaron.

Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 22 Ebrill: 2yp Parch Andrew Lenny – Oedfa Gymun.

WI

PONTRHYDFENDIGAID WI’s 2018 programme is well under way and they have already had speakers covering such diverse topics as Willow Weaving and Life in the Theatre.

The May meeting is an open one with Donald Morgan, Chelsea Flower Show gold medallist, demonstrating floral artistry.

A sincere invitation is extended to any lady, over the age of 18, to join us in Pantyfedwen Hall at 1.30pm on Wednesday, 2 May.

Refreshments will be served.

To help with catering numbers phone Wilma on 01974 831068.

Merched y Wawr

NOS Fawrth, 3 Ebrill, cynhaliwyd noson yng nghwmni John Jones, Tynfron.

Croesawodd y llywydd, Joan Davies bawb i’r cyfarfod, ac roedd y noson yng ngofal Mari Arch a Neli Jones.

Cyflwynwyd John gan Neli, a diolchodd iddo am ddod ar fyr rybydd ynghanol ei brysurdeb.

Mwynhawyd cwis yng nghwmni John, a’r ddau dîm yn cael yr hwyl arferol yn ei gwmni.

Talwyd y diolchiadau gan Mari, a hi a Neli oedd yng ngofal y te ar ddiwedd y noson. Enillwyd gwobr y raffl gan Mari Arch.

Bydd y noson nesa ar nos Fawrth, 8 Mai, pryd y ceir cyfle i ethol swyddogion am y flwyddyn nesa, ynghyd ag ambell gêm o bingo.

Bydd y Trip Dirgel yn cloi’r tymor, a hynny ar ddydd Gwener, 22 Mehefin.

Rhowch eich enwau i Jên Ebenezer er mwyn sicrhau sedd ar y bws.

Carnifal

CYNHALIWYD disgo arbennig yn Neuadd Pantyfedwen yn ddiweddar, i ddewis Brenhines Carnifal 2018 a’i gosgordd.

Y frenhines fydd Megan Herberts, a’i gosgordd fydd Mari Herberts, Gwenno Fflur Evans, Cain Owen, a Rhys Jenkins.

Bydd y carnifal yn cael ei gynnal ym Mhafiliwn y Bont ar ddydd Sadwrn, 7 Gorffennaf, a llywydd y dydd a’r beirniad fydd Aled Jones Evans, Cwmann (Crudyrawel gynt).

Eisteddfod Swyddffynnon

CYNHELIR Eisteddfod Swyddffynnon (a ohiriwyd oherwydd yr eira ddechrau Mawrth) yn Neuadd Pantyfedwen nos Wener, 20 Ebrill, gyda’r adran agored i gychwyn am 5yh.

Am ragor o fanylion, cysylltwch â’r ysgrifennydd – Annwen Isaac ar 01974 831668.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]