THE latest community news from Pontrhydfendigaid
Eisteddfodau
BYDD Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen yn cael eu cynnal ym Mhafiliwn y Bont dros benwythnos Gwyl Calan Mai, 4 i 7 Mai.
Ar y nos Wener, am 5yh, ceir y partïon Canu a Llefaru, Côr, Ymgom ac Unawd Offerynnol oedran Cynradd, Ymgom ac Unawd Offerynnol oedran Uwchradd, Parti Canu, Unawd Offerynnol ac Ensemble Offerynnol Agored, a chystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, sef Ensemble Lleisiol.
Ddydd Sadwrn, am 9.30yb, bydd unawdau llefaru, Cerdd Dant ac Alaw Werin unigol i blant ac ieuenctid, ac Unawd Cerdd Dant ac Alaw Werin Agored a seremoni Coroni’r Bardd.
Nos Sadwrn, am 8yh ceir y Sioeau Cerdd a’r Ddrama, sef ‘Sadwrn y Sêr’.
Nos Sul am 6yh, cynhelir ‘Talwrn y Beirdd’ ym mar y pafiliwn, dan ofal y Meurynau – Y Prifeirdd T James Jones a Manon Rhys.
Bydd cystadleuaeth newydd ar y nos Sul eleni, sef cystadleuaeth Tlws yr Ifanc, a chynhelir y seremoni yn ystod y Talwrn.
Ddydd Llun, am 11yb, bydd y Ddeuawd Agored, Unawd Gymraeg, Unawd a Llefaru dros 25 oed, Canu Emyn dros 60 oed, Monolog, Unawd Oeratorio, Prif Lefarydd Unigol a’r Her Unawd dros 25 oed.
Bydd seremoni’r Cadeirio yn digwydd yn y prynhawn.
Yn ystod sesiwn yr hwyr, ceir anerchiad gan Lywydd yr wyl am eleni, Gwen Herberts, Dolfawr.
Os am ragor o fanylion, cysylltwch â’r ysgrifenyddion cyffredinol, Selwyn a Neli Jones ar 01974 831695 neu [email protected]
Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 29 Ebrill: 11yb, Ysgol Sul; 2yp, ymuno â Charmel gyda Lyn Ebenezer.
Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 29 Ebrill: 2yp, Lyn Ebenezer.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]



.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.