THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 10 Mawrth, 10yb - Parch Roger Ellis Humphreys; 11yb – Ysgol Sul.

Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 10 Mawrth, 2yp – Adrian Walters.

Rhydfendigaid

FORE Sul, 3 Mawrth, cynhaliwyd gwasanaeth a chyngerdd i ddathlu G?yl Ddewi yn y capel gan blant yr Ysgol Sul.

Roedd y capel wedi’i addurno’n hardd gyda baneri Dewi Sant a’r Ddraig Goch, a chennin pedr.

Dechreuwyd gyda defosiwn, ac yna cafwyd eitemau amrywiol yn cynnwys unawdau a deuawdau lleisiol, parti unsain, llefaru, unawd piano a dwy eitem gan y côr a oedd yn cynnwys yr holl blant a oedd yn cymryd rhan.

Diolch i Megan a Mari Herberts, Delun a Guto Davies, Gethin a Gwenno Evans, Lleucu Jones, Cain a Jess Owen, Caio ap Nial, Caru Hunt, Emrys, Buddug ac Anest Jones, Elen a Mari Wyn Hughes a Rhys Williams am gymryd rhan.

Roedd yn hyfryd gweld Elan Haf Williams yn bresennol ac yn edrych yn hardd yn ei gwisg Gymreig am y tro cyntaf, a hefyd Cilian ap Nial a oedd yn ymuno yn y dathlu yn ei ffordd fach ei hun!

Roedd aelodau o Garmel y Bedyddwyr ac o Swyddffynnon hefyd wedi ymuno â’r gynulleidfa, ac roedd yn braf cael eu cwmni. Diolch i John Jones, Tynfron am anerch y plant ar fyr rybudd, a ddiolchodd iddynt am gymryd rhan a’u annog i gario ‘mlaen ac i ‘wneud y pethau bychain’.

Diolchwyd hefyd gan Jean Williams. Gwnaed casgliad tuag at Gymdeithas y Beiblau gan Delun Davies a Cain Owen.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]