THE latest community news from Pontsian
Cwis
NOS Iau cynhelir noson gwis yn Nhafarn Bach am 8yh.
Tâl mynediad o £1 y person a lan i bump mewn tîm. Croeso i bawb.
Meic agored
NOS Wener bydd Tafarn Bach yn cynnal eu noson meic agored misol, gyda chyfres o artistiaid a pherfformwyr lleol yn cymryd rhan.
Mae hon yn noson nad ydych am ei cholli, gydag awyrgylch gynnes a phersonol. Cyfle arbennig i chi i gael noson wych o adloniant anhygoel.
Gyda pherfformiadau yn amrywio o ganu gwlad, gwerin, acoustic, i opera a rhythm a’r blues.
Darperir PA llawn ar gyfer y lleoliad gwych hwn ynghyd â pheint am ddim i’r holl berfformiwr.
Mae cerddoriaeth yn dechrau am 8yh, felly ewch draw yn gynnar i osod enw ar y rhestr.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Peter Williams ar 01558 650997 neu Tim Greenwood ar 01545 590818.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.