THE latest community news from Porthmadog
Cymdeithas Undebol
Capel y Porth
AR nos Lun, 8 Hydref, agorwyd tymor newydd gyda perfformiad gan Lliaws Cain.
Parti merched yw hwn o ardal Drawsfynydd.
Yn cyfeilio i’r merched mae Heulwen Hydref, sy’n brif athrawes ar Ysgol Bro Hedd Wyn.
Yng ngofal y talentau yma, yn cadw trefn ac arwain, mae Cellan Lewis sy’n athro yn Ysgol y Gader.
Yn cyflwyno yr holl ganeuon yn hwyliog iawn oedd Megan Williams o Bronaber.
Roedd amrywiaeth da iawn gan y parti a dyma rai wnaeth argraff ar y gr?p: Wele’n sefyll rhwng y Myrtwydd o sioe Ann, Hafan Gobaith, Rho im Iesu, cân ysbrydol Sigla Fi, Breuddwydia Di o’r sioe Les Miserables a Cherdded hyd y Llethrau gan Robat Arwyn.
Diolchwyd yn gynnes iawn i’r parti disgybledig yma gan Chris Prew a mwynhawyd y baned ar y diwedd.
Penamser Estate Chapel
SUNDAY: 10am, main preaching service with bilingual communion; 11.20am, Sunday school (for all ages); 12.10pm, section meetings.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.