THE latest community news from Porthmadog
Merched y Wawr
CROESAWYD pawb gan y llywydd, Rowena Griffiths, yn y cyfarfod ar 21 Tachwedd.
Daeth nifer fawr o’r aelodau allan ar noson oer a chafwyd amser pleserus iawn yng nghwmni Vicki Hinde (The Soap Mine) o Feddgelert.
Dangosodd Vicki mewn ffordd eglur a thaclus iawn sut mae hi’n gwneud ei sebon a’r pwysigrwydd o fesur pob peth sydd yn mynd iddo yn ofalus oherwydd mae ‘na reolau yngl?n â rhai o’r cynhwysion.
Mae’r sebon yma yn foethus iawn ac wedi ei wneud o gynhwysion hollol naturiol.
Ar wahân i’r gwahanol bersawr mae’r sebonau yn edrych yn ddeniadol iawn ac ar ddiwedd y noson roedd aelodau yn falch fod ‘na ddewis eang ar werth.
Mae sebon Vicki ar werth mewn siopau ac ar y we yn ogystal â’r Ganolfan, Porthmadog diwedd pob mis pan fydd y farchnad leol ymlaen.
Yn y cyfarfod nesaf, 18 Rhagfyr, dathlir y Nadolig yng nghwmni Celyn a’i ffrindiau.
Edrychir ymlaen at eich gweld a chofiwch ddod â’ch anrheg fach gyda chi.
Penamser Estate Chapel
NEXT Sunday: 10am, main preaching service with bilingual communion; 11.20am, Sunday School (for all ages); 12.10am, Section meetings (men, women, youth, children).
Croeso cynnes i bawb.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.