THE latest community news from Porthmadog

Merched y Wawr

CAFWYD noson wirioneddol arbennig nos Fawrth, 9 Ebrill pan ddaeth canghennau Golan a Nant Gwynant atom i wylio perfformiad yr actores amryddawn, Carys Gwilym a’i phortread o frenhines ein llên, Kate Roberts.

Mewn perfformiad o gwta awr o hyd, cawsom ein tywys drwy fywyd Kate Roberts, o’i chynefin yng Nghae’r Gors, i lawr i Aberdâr yn y de ac yna i Ddinbych.

Cymaint oedd celfyddyd Carys Gwilym, fe gawsom ein darbwyllo a’n swyno i gredu mai Kate ei hun oedd yno o’n blaenau, ac roedd y distawrwydd ingol wrth iddi adrodd am farwolaeth Dei, brawd ieuengaf Kate Roberts, yn y rhyfel ac yna, yn ddiweddarach, Morris T Williams, sef ei g?r, yn dyst i ddawn yr actores amryddawn hon. Mewn Cymeriad yw enw’r cwmni sy’n cynhyrchu’r ddrama.

Mae’n werth ei gweld. Trefnwch iddi ddod i’ch cymdeithasau a’ch ysgolion chi.

Wrth derfynu’r noson, diolchodd ein llywydd, Rowena Griffiths am nawdd gan Gronfa Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd er mwyn cynnal y noson.

Atgoffodd bawb hefyd am y daith cyn bo hir i Ddinas Mawddwy ac i ymweld â Thynybraich, Cwm Maesglasau a bod Nia wedi trefnu i gael benthyg nifer go dda o’r gyfrol O! tyn y gorchudd o’r llyfrgell os bydd rhywun eisiau darllen y gyfrol cyn mynd yno!

Diolchwyd i ferched y te, a mwynhawyd plateidiau o gacennau cri blasus! Diweddglo hyfryd i noson ardderchog.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]