THE latest community news from Porthmadog.

Inner Wheel

At the November meeting of Porthmadog Inner Wheel Club, held at Jenny’s, president Margaret Harrison opened the meeting by giving news of members who were unwell and wished all of them a speedy recovery.

The tombola evening had been a success and matters were in hand to buy the boxes of biscuits which are given out annually before Christmas.

he president had attended a Zone meeting, an Interclub, district meeting and a day out to Caernarfon to see the poppies with various other members. Malcolm Wells, the speaker gave an informative talk on Canine Partners, the president’s chosen charity.

The December meeting will be the Christmas lunch on 12 December.

Merched y Wawr

DAETH criw da ohonom i’r Ganolfan fis Tachwedd i weld a gwrando ar wraig fedrus iawn wrth ei gwaith.

June Bagley o Drefor fu wrthi’n ddiwyd yn gwneud trefniannau blodau ar gyfer y Nadolig ac achlysuron eraill.

Mae’n debyg iddi ymddiddori mewn trin deiliach a blodau pan yn ifanc iawn ac yna gyda mwy o brofiad cystadlu mewn sioeau lleol a thrwy ennill cael mwy o hyder a llwyddo ar ein prif lwyfannau megis Primyn Môn. Gyda’i llygaid am siap a delwedd buan iawn y daeth yn feirniad ei hun.

Daeth a llond trol o flodau naturiol, blodau sych, dail ac addurniadau gyda hi a bu’n gwneud gosodiadau gwerth chweil ar cyfan heb orfod gwario llawer. Mae’n mynd o gwmpas clybiau garddio a mudiadau eraill i arddangos ei gwaith oherwydd bu hyn yn therapi iddi ar ôl dioddef anhwylder cas.

Cafwyd ocsiwn ar y diwedd gan wneud elw o £50 tuag at Gymdeithas Stroc.

Diolch i Norma, Lon a Gill am lywio a chynnal y noson ac i ferched y te am y baned.

Cofiwch am noson goffi Merched y Wawr ar nos Wener, 25 Tachwedd, yn y Ganolfan o 6.30yh ymlaen ac hefyd chwi holl drigolion Porthmadog a’r cylch dowch draw i Gapel y Porth, nos Fawrth, 6 Rhagfyr am 7yh pryd y cawn noson o garolau yng nghwmni ysgolion a band pres lleol.

Bydd y noson yn agored i bawb gyda Ann Pierce Jones, Hendre Cennin yn arwain a Carys Lake yn cyfeilio.

Dewch i ymuno â ni i flasu naws yr Wyl.

Cymdeithas Undebol Capel y Porth

CROESAWYD Martin Pritchard in plith ar 14 Tachwedd. Fe’i cyflwynwyd gan y cadeirydd fel bachgen lleol, oedd â diddordeb mewn casglu cardiau post ers pan yn ifanc.

Daeth yn enwog gan iddo roi ei gasgliad ar safle we Flickr, a Wyneblyfr â phobl o bob rhan o’r byd yn gallu gweld ei luniau hanesyddol o Borthmadog.

Treuliodd awr ddifyr yn sôn am dwf yr harbwr, y Stryd Fawr, siopau a gweithfeydd yr ardal. Gwelsom fyrdd o hen gymeriadau, llawer ohonynt yn gyfarwydd iawn i gynulleidfa.

Digalon hefyd oedd gweld lluniau o adeiladau sydd wedi eu dymchwel ac mae noson fel hon yn ein atgoffa o’r trysorau sydd wedi mynd. Llawer o ddiolch i Martin am rannu o’i wybodaeth a’i luniau. Diolch hefyd am y baned i’r chwiorydd ac i Chris am y diolchiadau.

£200 charity climb

A 10-YEAR-OLD boy from Porthmadog has raised almost £200 after walking up Snowdon in aid of Children in Need.

Shay Michael Tiernan was inspired to take on the walk after watching an episode of Countryfile which featured Children in Need.

The Ysgol Eifion Wyn pupil started his gruelling walk from Llanberis Fire Station, and once he reached the summit of Snowdon, he returned back to the station, a total of 15.06km.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]