THE latest community news from Porthmadog

Correlis Cymdeithas Undebol Capel y Porth a Jeriwsalem

CROESAWYD Meinir Pierce Jones o Nefyn gan Hefina Jones i gyflwyno sgwrs a sleidiau am daith arbennig a wnaeth dro yn ôl.

Mae Meinir yn berson prysur iawn sydd wedi cyhoeddi sawl llyfr i blant ac oedolion, yn ogystal â rhedeg yr Amgueddfa Forwrol yn Nefyn.

Roedd Meinir wedi dewis mynd i hwylio ar y llong hwyliau y Lord Nelson gyda’r teithwyr i gyd yn cael profiadau morwrol a chan fod llawer o’r teithwyr yn anabl roedd y teithiwyr abl fel Meinir yn cymryd un dan ei hadain. Un rheswn dros fynd ar y fordaith oedd profi profiadau ei hen daid John Jones a oedd wedi bod yn llongwr ar y Lord Nelson. Dechreuodd John Jones fel trwsiwr hwyliau, gwaith pwysig iawn ar long hwyliau a bu i John Jones weithio ei ffordd i fod yn gapten.

Cafodd ei benodi yn gapten ar y llong Wild Rose ond yn anffodus aeth y llong i anhawsder ger Brasil ac fe’i chwalwyd, ond yn ffodus fe achubwyd y criw.

Collodd John ei docyn capten am nad oedd wedi gollwng plwm ddigon aml i ganfod dyfnder. Hwyliodd John yn ddiweddarach ar y llong Queen fel mêt. Collodd y capten ei iechyd a bu farw, a phenodwyd John yn ei le.

Tra yn Efrog Newydd trawyd John yn wael ac ni phretrusodd Elin Jones ei wraig cyn hwylio i Efrog i ofalu amdano gan aros yno am chwech wythnos. Nid oedd John yn teimlo’n dda ar ei ffordd adra ac ni allai gysgu a bu raid cael meddyg ato. Daeth fel teithiwr weddill ei ffordd adra.

Wedi gwella aeth unwaith eto i forio ar yr Elizabeth Jones ac arni hi y collodd ei fywyd.

Talwyd y diolchiadau gan ein gweinidog, Chris Prew, am gael cip ar fywyd caled John Jones oddeutu can mlynedd yn ôl, a phrofi taith unigryw Meinir.

The Church of Jesus Christ of Latter-day Saints

THIS Sunday in Penamser Estate chapel: 10am, main service, with bilingual communion; 11.20am, Gospel study (Sunday School for all ages); 12.10pm, section meetings (men, women, youth, children).

Everybody welcome. Croeso cynnes i bawb.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]