THE latest community news from Prengwyn

Sioe

UNWAITH eto, braf oedd gweld cymaint o gystadleuwyr wedi dod i Neuadd Pantydefaid i’r sioe flynyddol a da oedd gweld y byrddau yn orlawn gyda chynnyrch gwych.

Mawr yw’r diolch i bawb a fu’n helpu mewn unrhyw fodd, gan wneud y diwrnod yn llwyddiant eleni eto.

Bydd yr arian yn mynd tuag at Uned Radiotherapi Ysbyty Singleton a’r Ambiwlans Awyr.

Cafwyd enillwyr ym mhob adran, fel a ganlyn: Plant - dan 7 oed: Eli May 7-11 oed: Elan Jones.

Photos: Rowena Davies Franklin; Preserves: Rosemary Jones; Gwin: Dylan Davies, Cwrt, Pontsian; Coginio: Glenys, Drefach Felindre; Gwaith Coed: Alfred Thomas, Fronwen; Gwaith Llaw: Rowena Davies Franklin; Pensiynwyr: Hefina Davies, Pontsian; Cynnyrch Gardd: Ella Grace, Plwmp.

Yn yr hwyr gynhaliwyd bingo yn y neuadd, gyda nifer o enillwyr lwcus.

Diolch i bawb am bob cymorth, cyfraniad a chefnogaeth i’r sioe eleni eto.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]