THE latest community news from Prengwyn
Urdd y Benywod Capel Pantydefaid
AR nos Wener, 14 Medi, cawsom ginio blasus iawn yng ngwesty’r Castle Green yn Llanbed i ddathlu 95 mlynedd o fodolaeth Urdd y Benywod Capel Pantydefaid.
Croesawodd ein llywydd, Elaine Davies, bawb a chydymdeimlodd â’r aelodau oedd wedi colli anwyliaid yn ystod y misoedd diwethaf.
Llongyfarchodd y rhai oedd wedi cael llwyddiant mewn gwahanol feysydd.
Roedd mamgu Elaine, sef Lena Davies, Faerdre yn un o’r ysbrydolwyr a ddaeth â phawb ynghyd yn 1923 i ffurfio’r gangen a bu’n llywydd ar y gangen yma o 1932 tan 1975.
Cawsom hanes dechreuad y mudiad gan Elaine ac esboniodd fel y gwahoddwyd Miss Harford, ysgrifennydd ar raddfa brydeinig, i ddod i Gapel-y-Groes a Chapel Pantydefaid ym mis Awst 1923 ac o ganlyniad annog dechreuad Undeb y Menywod, fel y galwyd y pryd hynny.
Felly, cychwynnodd y gangen ym mis Medi 1923.
Cawsom hanes y ‘bazaars’ blynyddol llwyddiannus ac am y ‘cantata’ gydag Undeb y Menywod Capel-y-Bryn ym Mehefin 1924.
Roedd tlodi mawr yn y ‘30au a bu gwragedd Urdd y Benywod Pantydefaid yn paratoi pecynnau a’u danfon i’r glowyr di-waith yn Ne Cymru.
Hefyd, soniodd Elaine am bethau eraill a ddigwyddodd yn ein byd yn 1923, yn cynnwys dyfeisio’r oergell, darganfyddiad inswlin a’r dylunio o’r wisg nofio un darn.
Symudodd Elaine ymlaen at gofnodion y gangen yn y ‘50au a chawsom hanes diddorol tu hwnt.
Wedyn clywsom benillion o waith Ann Jones am weithgareddau Urdd y Benywod ym Mhantydefaid am 95 o flynyddoedd, gyda chymorth Gwenyth Richards yn defnyddio Pwynt P?er.
Canwyd penillion o waith Rhian Jones am y ddegawd olaf gan Rhian Jones a Mair Davies. Diolchodd Elaine a Mary Williams, y trysorydd, bawb a wnaeth y noson yn un llwyddiannus dros ben.
Atgoffwyd pawb am ymweliad aelodau Capel Bethel, Mynachlog-Ddu ar 5 Hydref, y noson yng ngofal Eleri, Elaine a Mary gyda the Cymreig yn dilyn.
Hefyd am y Seiat Holi i ddathlu ein bodolaeth ar 12 Hydref, gyda Elaine yn cadeirio a Mattie, Luned Mair a Gwenyth ar y panel.
Yna, ar y nos Wener ganlynol sef y 19eg, cynhelir noson agored yng nghwmni ein Haelod Seneddol Ben Lake yn y festri ym Mhrengwyn am 7.30yh, gyda chyfle i holi cwestiynau. Mynediad am ddim.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.