MAE Urdd Gobaith Cymru yn falch o lansio apêl Cronfa Cyfle i Bawb 2026, gyda’r nod o roi gwyliau bythgofiadwy yn un o wersylloedd yr Urdd i gannoedd o blant a phobl ifanc na fyddai fel arall byth yn cael y cyfle.

Gyda bron i un o bob tri plentyn (31%) yng Nghymru bellach yn byw mewn tlodi, mae gwyliau llawn hwyl a gweithgareddau yn rhywbeth sydd tu hwnt i gyrraedd llawer iawn o deuluoedd.

“Mae Cronfa Cyfle i Bawb mor bwysig i ni,” meddai Mair Edwards, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Glan-llyn. “Trwy ein cenhadaeth ‘Urdd i Bawb’, rydym yn sicrhau nad oes plentyn yn cael ei adael ar ôl.

“Ers sefydlu’r gronfa, a diolch i gyfraniadau hael, rydym wedi croesawu dros 1,000 o blant a phobl ifanc sy’n byw mewn amgylchiadau heriol ar wyliau i un o’n gwersylloedd dros yr haf. Daeth 100 o blant i Lan-llyn yn ystod haf 2025, gyda 42 plentyn o Wynedd yn cael lle yn un o wersylloedd yr Urdd. Rydym ni’n gweld gyda’n llygaid ein hunain pa mor arbennig ydy’r profiad iddynt.

“Mae’r plant a’r bobl ifanc yn blodeuo mewn ychydig ddyddiau; yn magu hyder, gwneud ffrindiau newydd, datblygu eu sgiliau Cymraeg ac yn mwynhau eu hunain heb orfod poeni am unrhyw beth.”

Lansiwyd ‘Cronfa Cyfle i Bawb’ gan yr Urdd yn 2018. Erbyn heddiw, trwy nawdd y gronfa, mae dros 1000 o blant a phobl ifanc o deuluoedd incwm isel, yn blant maeth, neu’n ofalwyr ifanc i fwynhau gwyliau yn un o wersylloedd yr Urdd.

Yn gynharach eleni bu’r Urdd yn gweithio gydag elusen Achub y Plant er mwyn paratoi ei Neges Heddwch ac Ewyllys Da, gan dynnu sylw at y ffaith bod 1 ym mhob 3 o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru, a chyfanswm o 4.5 miliwn o blant ledled y DU.

Meddai Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru: “Mae rhieni eisiau’r gorau i’w plant, ond mae heriau ariannol yn golygu bod llawer yn wynebu penderfyniadau anodd. Mae gormod o blant yn colli’r cyfle i wneud pethau ddylai fod yn rhan annatod o blentyndod: mynd ar drip ysgol, mwynhau chwaraeon, cerddoriaeth a chael cyfle i chwarae a threulio amser gyda ffrindiau. Tra bod rhai yn gallu ymuno ac eraill ddim, daw anghydraddoldeb ac arwahanu a all aros am byth.

“Mae Cronfa Cyfle i Bawb yr Urdd yn rhoi cyfle arbennig i blant, beth bynnag eu sefyllfa neu eu cefndir, i wneud atgofion oes a chymryd rhan mewn gweithgareddau fydd o fudd i’w llesiant, eu hyder a’u datblygiad.”

Byddai cyfraniad o £230 at y Gronfa yn mynd at gost gwyliau i un plentyn neu berson ifanc yng Ngwersyll Glan-llyn, Llangrannog, Pentre Ifan neu Gaerdydd. Mae hyn yn cynnwys gwyliau rhwng 3 a 5 diwrnod (yn ddibynnol ar y lleoliad) llawn gweithgareddau, trafnidiaeth i ac o’r gwersyll, tri phryd bwyd y dydd, a chefnogaeth a gofal gan staff profiadol y mudiad.

Bydd modd i deuluoedd, rhieni maeth, athrawon a gofalwyr wneud cais am wyliau ar ran plentyn neu berson ifanc yn gwanwyn 2026.

Croesawir cyfraniadau tuag at y Gronfa gan unigolion, busnesau, sefydliadau, elusennau a chynghorau tref a chymuned o bob cwr o Gymru. Cefnogir yr ymgyrch hefyd gan gwmni cyfryngau Tinopolis.

“Wrth i’r Nadolig agosáu, mae cyfle i roi un anrheg arbennig iawn eleni,” ychwanega Mair Edwards. “Mae’n swnio’n honiad mawr, ond o weld gyda’n llygaid ein hunain gallwn ddweud yn hyderus bod dod ar wyliau i un o wersylloedd yr Urdd yn gallu newid bywyd plentyn sy’n byw mewn tlodi.”

Gall unrhyw un gyfrannu trwy’r wefan (urdd.cymru/cronfa) neu wrth gysylltu gyda’r Urdd ar 01239 652 140 / [email protected]