THE latest community news from Prengwyn
Urdd y Benywod Capel Pantydefaid
AR ddydd Sadwrn, 27 Ebrill, aeth aelodau Urdd y Benywod Capel Pantydefaid, ar daith ddirgel.
Yr ymweliad cyntaf oedd â Gwinllan Celteg yn Henllan.
Cafwyd amlinelliad o’r hyn sy’n cael eu cynhyrchu yno, o winoedd gwahanol i gynnyrch jam.
Ymlaen wedyn i dref Caerfyrddin a’r cyfle i ymweld ag ambell i siop. I orffen y daith, mwynhawyd gwledd o swper yng ngwesty Llety Cynin, ger San Clêr.
Diwrnod diddorol ac amrywiol.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.