THE latest community news from Prengwyn.
Urdd y Benywod Capel Pantydefaid
AR ddechrau mis Rhagfyr cafodd yr aelodau gyfle i glywed rhai o helyntion y Prifardd Dylan Iorwerth wrth iddo ddisgrifio’i deithiau diweddaraf fel newyddiadurwr. Bu’n ymweld â dwy wlad, Moroco ac Israel, wrth iddo ddilyn ôl traed dwy ddynes o Gymru yn y gwledydd yma degawdau yn ôl. Cawsom hanes eu profiadau hwythau fel menywod mewn gwledydd tra gwa-hanol i Gymru yn ogystal â’i argraff ef o’r ddwy wlad erbyn hyn. Cafwyd noson hynod o ddiddorol ac addysgiadol wrth inni drafod y gwlei-dyddiaeth cymhleth a’r tensiynau sydd yn y Dwyrain Canol.
Ar y nos Wener canlynol, bu’r aelo-dau yn dathlu’r Wyl wrth gael ein cinio Nadolig yn y Llew Coch yn Nrefach Felindre. Noson o fwynhad pur gyda bwyd blasus iawn a sgwrsio hwylus. Y gwr gwadd oedd ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas, a chafwyd anerchiad llawn hiwmor ganddo. Dywedodd ychydig o hanes y meny-wod yn ei deulu gan olrhain dilyniant yr enwau o genhedlaeth i genhedlaeth. Pwysleisiodd pa mor bwysig yw dylanwad y fenyw mewn teulu ac mewn cymdeithas yn gyffredinol. Ar brynhawn Sul, 11 Rhagfyr, aeth gynrychiolaeth o’r Urdd y Benywod i ganu carolau yng Nghartref Maesyfelin yn Nrefach, Llanwenog. Cafwyd darlleniadau gan Elaine Davies, Rowena Davies Franklin, Mary Williams a Sheila Hoare yn ogystal â deuawd gan Mair Davies a Rhian Jones. Hefina Davies oedd yn cyfeilio.
Diolchodd ein llywydd y cartref am y gwahoddiad ac am y te a weinyddwyd.
Daeth gweithgareddau’r tymor i ben ac edrychwn ymlaen yn awr at yr hyn bydd yn ein diddori blwyddyn nesaf.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.