THE latest community news from Prengwyn
Urdd y Benywod
DECHREUWYD gweithgareddau’r tymor newydd ar nos Wener, 15 Medi.
Ein gwr gwadd ar y noson oedd Wyn Evans o Dre-Ioan, Caerfyrddin.
Cafodd ei fagu ar aelwyd Gristnogol gan fynychu’r Ysgol Sul a’r capel yn gyson. Er hynny, aeth yn gaeth i’r ddiod feddwol.
Yn ei araith soniodd am ei frwydr gydag alcohol ac am y ffordd y newidiodd ei fywyd yn gyfangwbl. Dim ond drwy frwydro’n galed y llwyddodd i goncro’r afiechyd.
Ar nos Iau, 21 Medi, cynhaliwyd Cwrdd Diolchgarwch, Urdd Benywod Sir Ceredigion, yng Nghapel Pantydefaid. Y Parch Wyn Thomas oedd yng ngofal y gwasanaeth ac yn cymryd rhan oedd Rowena, Elaine, Gaynor, Rhian J, Mair, Dwynwen a Bethan.
Yn ystod y gwasanaeth casglwyd £70 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.
Talwyd y diolchiadau gan Ann Evenden, llywydd y Sir.
I ddilyn bu cyfarfod o dan ofal Cynthia ac Ann Evenden.
I orffen y noson, mwynhawyd te Cymreig yn y Festri.
Nos Wener, 29 Medi, yn Castle Green, Llanbed, y cynhaliwyd ein cinio eleni eto. Offrymwyd gras wrth y bwrdd gan y Parch Wyn Thomas.
Elaine, ein llywydd, groesawodd ein gwr gwadd, y Parch Cen Llwyd.
Testun ei araith oedd y pensaer byd enwog, Frank Lloyd Wright. Roedd Frank Lloyd Wright yn un o ddisgynyddion teulu Blaenrallt-ddu a ymfudodd i’r Amerig yn 1844. Diddorol cofnodi bod sawl un o’i ddisgynyddion yn bresennol yn ein cinio.
Mwynhawyd araith Cen yn fawr ac roedd yn amlwg ei fod wedi ymchwilio yn fanwl i gefndir a bywyd Frank Lloyd Wright.
Talwyd y diolchiadau gan Elaine a dymunwyd bywyd priodasol hapus i Mererid ac Arwel. Methodd Mary Williams, Min-y-Ffordd fod yn bresennol a dymunwyd gwellhad buan i’w thad, Dai Williams. Diolchodd Elaine hefyd i Mary Thomas, Wilke’s Head am gasglu’r arian ac i Ann am drefnu’r noson.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.