THE latest community news from Prengwyn
Urdd y Benywod
AR nos Wener, 6 Hydref, croesawodd y llywydd, Mary Williams, Wilkes Head, y gwestai Eluned Mair.
Gweithiodd fel gweithiwr cynorthwyol gydag oedolion ag anableddau dysgu cyn cael swydd fel seicolegydd cynorthwyol.
Ar ôl siarad am ei phrofiadau, rhoddodd brofion i’r aelodau er mwyn mesur cof a sgiliau dylunio.
I orffen y noson, mwynhawyd y lluniaeth a oedd wedi ei baratoi gan Hefina, Rowena a Caroline.
Ar nos Wener, 13 Hydref, daeth y ddwy chwaer, Llinos a Sian o Clinic Bach y Wlad i ddangos eu sgiliau.
Mae’r ddwy yn cynnig amrywiaeth o driniaethau i leddfu a gwella anhwylderau’r corff, e.e. adweitheg Reiki, tyluno a podiatreg, sef gwasanaeth trïn traed, yn eu clinig yng Nghapel Dewi, Llandysul.
Seiat Holi oedd ar y fwydlen nos Wener, 27 Hydref.
Aelodau’r panel oedd y cynghorydd sir Peter Davies; Llyr Jones, ffermwr lleol ac arwerthwr; a Cennydd Jones, darlithydd yng Ngholeg Gelli Aur.
Cafwyd atebion i’r cwestiynau.
Cadwyd trefn ar y cyfan dan gadeiryddiaeth fedrus Elaine.
Llywela, Mair, Tresi Aur, a Maud fu wrthi’n paratoi’r lluniaeth.
Dymunir wellhád buan i’n Gweinidog, y Parch Wyn Thomas, sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Treforus, a dymuniadau gorau i Eluned Mair ar ei swydd newydd yng Nghaerfyrddin.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.