THE latest community news from Pwllheli
Capel y Drindod
Dydd Llun, 9 Gorffennaf cynhaliwyd trip y Chwiorydd i Nant Gwrtheyrn.
Mynd i’r capel yn y Nant i ddechrau i gael hanes y lle. Cychwyn hefo Gwrtheyrn oedd yn chwilio am le diogel i guddio. Yna Pysgotwyr. Tri mynach yn ymweld i geisio troi’r bobl at Gristnogaeth, ond cael eu gwrthod yn llwyr. Rhoi tair melltith ar y lle, y nant yn ffynnu deirgwaith a methu deirgwaith, neb o’r pentref i briodi, ‘Rhys a Meinir’, dim man cysegredig. Dim Eglwys na mynwent yno, cludo’r cyrff i Lithfaen.
Yna, amaethu tair fferm. Yna cloddio ac agor tair chwarel. Bri ar yr ithfaen. Tan ar ôl y ddwy Ryfel Byd, y teulu olaf yn gadael yn 1959. Dirywiad tan weledigaeth Dr Carl Iwan Clowes, o droi’r Nant yn le i ddysgu Cymraeg. Heddiw hefyd yn le treftadaeth.
Yna aethpwyd am dro o gwmpas y pentref a diweddu yng Nghaffi Meinir, am bryd o fwyd hyfryd. Noson braf a phawb wedi mwynhau.
Dyddiadur: Sul, 29 Gorffennaf, 10yb a 5yp, Arawn Glyn.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.