THE latest community news from Pwllheli

Aelwyd Chwiorydd – Capel y Drindod

NOS Fawrth, 16 Hydref cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor o Aelwyd yr Hwyr.

Croesawodd y llywydd, Enid Roberts bawb, yn arbennig y Parch Ann Jenkins a Gwyneth Jones.

Yna aeth ymlaen i’r gwasanaeth dechreuol, Lliwiau - arwyddocad i bob lliw, gwyrdd, glas, porffor at ati.

Yna cyflwynodd, yn ei ffordd arbennig ei hun, westai y noson sef Dr Iwan Edgar, gan gyfeirio at ei nifer o ddiddordebau a’i wybodaeth anhygoel.

Ei destun oedd y gweinidog dall John Pulston Jones a fu yn Penmount 1907 i 1918.

Yn ddall o’i blentyndod, aeth i goleg y Bala, a chael capeli Dinorwig a Fachwen cyn dod i Bwllheli.

Yr oedd yn heddychwr, ac yn erbyn yr hyn roedd John Williams, Brynsiencyn yn recrwtio a derbyn swydd yn yr armi.

Fe aeth i Neuadd y Dref pan oedd John Williams yno yn annerch a bu cryn gynnwrf.

Cyfeirodd Iwan at hunangofiant Pulston, a llyfr diweddar y Parch Harri Parri.

Cafwyd wedyn gyfraniadau o’r gynulleidfa.

Mwynhawyd paned o dan ofal Pat Parry a Gwenda Owen.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor o Aelwyd y Prynhawn ddydd Llun, 8 Hydref.

Croesawodd Jane Lloyd y llywydd bawb yn ôl ar ôl sceibiant yr haf.

Yna cafwyd gwasanaeth dechreuol ganddi ar y thema Diolchgarwch.

Anfonwyd cyfarchion at Ann Hughes ac Eirwen Williams, hefyd llongyfarchwyd Rhian Owen ar gyrraedd yr oed anrhydeddus o 96.

Cafwyd ynddiheuriad oddi wrth Megan Roberts.

Yna cyflwynodd y llywydd westai y prynhawn, sef Dewi Jones, Criccieth.

Teitl ei sgwrs oedd Profiadau.

Y profiadau yn cyfleu rhywbeth gwahanol ac efallai personol iawn i bawb. Ei esiampl gyntaf oedd Y Llwynog gan R Williams Parry.

Y bardd am dro yn Cwm Dilyn, gweld y gwrthrych am ychydig eiliadau, ond wedi darlunio y profiad mor gywrain.

Yn ail Tylluanod, a wnaed yn enwog gan Hogia’r Wyddfa y disgrifiad cledd i’r wain.

Yna troi at hunangofiant Dewi Llwyd, Llygad dyst i Gyflafan.

Yna sôn am fod yng ng?yl Caeredin – pethau ymylol a gweld drama am Aberfan.

Merched y pentref yn dod at ei gilydd i drïo dod dros y drychineb.

Cael merch o gwmni Revlon i sôn a rhoi y colur.

Un o’r merched yn ei herbyn, beth a wyddai hi am eu diddefaint hwy, tro yn y gynffon, yr oedd hi wedi colli brawd.

“Caeth” cerddi Peredur Lynch am ei dad a oedd yn weinidog, sut oedd ymdopi a chefnogi teulu oedd wedi colli bachgen ifanc.

Yna sôn am gerdd o Y Gân Olaf, Gerallt Lloyd Owen.

Y gerdd am gynhebrwng y Prifardd Moses Glyn Jones, Dewinfardd.

Llais y gylfinir yn cynrychioli cri y Gymraeg.

Moses Glyn Jones yn cynrychioli yr hen ffordd Gymerig o fyw, sydd yn diflannu.

Diolchwyd iddo gan Jane Lloyd a mwynhawyd paned yng ngofal Jean Williams a Iola Jones.

Capel y Drindod

IAU, 25 Hydref: 10yb, te a tost yn Efailnewydd.

Gwener, 26 Hydref: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol yn Yr Ala; 7yh, Cymdeithas Ddiwylliannol.

Sul, 28 Hydref: 10yb, Parch Geraint Hughes; Ysgolion Sul fel arfer; 5yh, Morgan Williams.

Mawrth, 30 Hydref: 7yh, Aelwyd y Chwiorydd.

Capel Penlan

SUL nesaf, 28 Hydref, bydd gwasanaeth yng ngofal Dewi Jones am 5yh.

Capel Seion

DDYDD Sul, 28 Hydref, am 2yp: Gwasanaeth i ddod â’r achos i ben yn Seion dan arweiniad y Diacon Stephen Roe.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]