THE latest community news from Pwllheli

Merched y Wawr

CYFARFU’R gangen yn Festri’r Drindod, nos Iau, 1 Tachwedd, a chroesawyd pawb gan lywydd y noson, sef Mari Evans.

Canwyd un pennill o Gân y Mudiad gyda Mari yn cyfeilio; darllenwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a chafwyd yn gywir.

Bellach mae’r parti canu yn brysur yn ymarfer am y gwasanaeth Nadolig yng Nghapel y Porth prynhawn Sul, 2 Rhagfyr, am 3.30yp.

Atgoffwyd yr aelodau bydd y cinio Nadolig ar brynhawn Gwener, 7 Rhagfyr, yn Pant Du; bwyta am 12.30yp, gyda’r bws yn cychwyn am 11.15yb ac yn codi pawb fel yr arfer.

Yna daeth yn amser cyflwyno’r wraig wadd, sef Gwyneth Sol Owen, a rhoddwyd pawb i eistedd mewn cylch â bwrdd bach yn y canol wedi ei ardurno â choed, canhwyllau a chyflaith.

Dyna Gwyneth – pawb yn ei ‘nabod – gallu ymdrin â geiria, wedi cael y dawn gan ei thad ‘Bardd Lori Laeth’ â’r ddawn hynny hefyd wedi ei basio ymlaen i’r genhedlaeth nesaf, sef Gruffudd.

Llongyfarchwyd Gruff am ennill y Gadair, a hynny y tro cyntaf iddo cystadlu ac am ennill Stôl Mewn Stomp a’r Cerdd Dant.

Cwmni, Cân a Chyflaith oedd penawd y noson.

Roedd cadair wag wrth ochr Gwyneth, yno yn bwrpasol i ymweliadau o’r Byd Arall – os na fydd cadair wag, yna mi fyddant yn meddwl nad oes croeso iddynt.

Cychwynodd y noson gyda’r aelodau i gyd yn sefyll ac yna aeth Gwyneth i ddarllen englynion am Merched y Wawr ac wrth clywed eu henwau byddent i gyd yn eistedd i lawr un fesul un.

Yn ychwanegol i’r englynion bu Gwyneth yn adrodd storïau a hanesion digon arswydol yn ngolau’r gannwyll ac fe ganwyd ambell gân gyda’n gilydd.

Ar ddiwedd y noson rhoddwyd y golau ymlaen a chanwyd Ar Hyd y Nos i rhoi terfyn ar y noson â pawb wedi mwynhau yn arw.

Diolchwyd i Gwyneth gan Mari, hefyd diolchwyd i’r ddwy Mair am roi y noson at ei gilydd.

Yn olaf, diolchwyd i’r merched te hefyd.

Capel y Drindod

DYDD Gwener, 9 Tachwedd: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol; 7yh, Cymdeithas Ddiwylliannol.

Dydd Sul, 11 Tachwedd: 10yb a 5yh, Andrew Settatree. Ysgolion Sul fel arfer.

Dydd Llun, 12 Tachwedd: 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Cyfarfod Gweddi’r Ofalaeth.

Dydd Mawrth, 13 Tachwedd: 7yh, Aelwyd y Chwiorydd.

Dydd Mercher, 14 Tachwedd: 7yh, Clwb Ieuenctid.

Clwb y Bont

LEE Oliver o Lanbedrog oedd y siaradwr gwadd yn Nhachwedd.

Mae’n gweithio i Menter Ceirw Cymru, gyda’i phencadlys yn Y Waun.

Gan gyd-weithio â nifer o fudiadau eraill, pwrpas y fenter ydi sicrhau poblogaeth gynhaladwy o geirw. Y strategaeth yw, rheoli twf, lleihau damweiniau ar y ffyrdd (74,000) ac ymateb i heintiau.

Y Carw Coch a’r Iwrch ydi’r ddau fath cynhenid, tra mae pedwar math arall wedi eu cyflwyno dros y blynyddoedd.

Yng Nghoed y Brenin mae tua 2,000 o Hyrddod Brith.

Gyda phoblogaeth yn tyfu’n gyflym, mae grwpiau cydweithredol lleol yn sicrhau rheolaeth gyfrifol.

Capel y Drindod

NOS Wener, 26 Hydref agorwyd tymor y Gymdeithas Ddiwylliannol.

Y g?r gwadd oedd Clive Moore, g?r lleol sy’n un o brif gynllunwyr y bad achub yn y dref.

Cafwyd sgwrs ddifyr ganddo ynghyd â fideo a lluniau o’r gwaith ardderchog y maen nhw’n ei gyflawni.

Edrychir ymlaen at lansio’r gwch newydd yn fuan.

Cyflwynwyd ef gan lywydd y noson a chaplan y Bad Achub, sef y gweinidog, y Parch W Bryn Williams.

Paratowyd paned a lluniaeth ysgafn gan chwiorydd y pwyllgor. Diolchwyd i bawb gan Gwyndaf Hughes.

Cynhelir y cyfarfod nesaf nos Wener, 9 Tachwedd am 7yh â’r g?r gwadd fydd Dawi Griffith o Drefor.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]