THE latest community news from Pwllheli
Aelwyd Chwiorydd – Capel y Drindod
CYNHALIWYD cyfarfod o aelwyd y prynhawn dydd Llun, 5 Tachwedd.
Y llywydd oedd Morfydd Roberts, gydag ymddiheuriad gan Jane Lloyd.
Yna aethpwyd ymlaen i ddewis nwyddau amrywiol Cymorth Cristnogol.
Yna soniodd am lansiad llyfr Parch Parri, Cannwyll Yn Olau, Stori John Pulston Jones, cyn gweinidog y capel, sydd yn cymryd lle yn Y Drindod, gyda chais i’r chwiorydd ddarparu paned.
Arddangosfa ar y Mercher a’r Iau.
Hefyd atgoffodd yr aelodau i ddod â gweill ac edafedd at y cyfarfod nesaf.
Gwraig wadd y prynhawn oedd Anna E Williams.
Fe gafodd swydd hefo’r Amgueddfa Werin yn San Ffagan fel ymchwilydd; maes ei hymchwil oedd hen feddyginiaethau.
Ai o gwmpas pobol mewn oed yn holi beth yr oedan nhw yn cofio ei gael at anhwylderau, fel Wermod Lwyd at anhwylder stumog.
Planhigion at bob math o bethau ei socian neu roi d?r berw arnynt.
Sôn am ysgawen, pryfaid genwair, at ddefaid ar y llaw, pwdin bara ac wrth gwrs Asiffeta.
Diolchwyd iddi am brynhawn hynod o ddiddorol gan Valerie.
Roedd y te yng ngofal Lydia a Jane Jones.
Cynhaliwyd cyfarfod o Aelwyd y prynhawn dydd Llun, 19 Tachwedd.
Treuliwyd y prynhawn yn sgwrsio a gwau sgwariau ar gyfer plancedi i’r anghenus.
Wedyn cwblhawyd trefniadau’r ffair Nadolig, a diweddwyd gyda phaned yng ngofal Ann Jones a Megan Roberts.
Capel y Drindod,/b>
IAU, 29 Tachwedd: 10yb, te a thost yn Efailnewydd.
Gwener, 30 Tachwedd: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol yn Yr Ala; 7yh, Cymdeithas Ddiwylliannol.
Sul, 2 Rhagfyr: 10yb a 5yh, Gweinidog; Ysgolion Sul fel arfer; 7yh, Oedfa’r Ddwy Ofalaeth yn Y Ffôr.
Llun, 3 Rhagfyr: 2yp, Aelwyd y Chwiorydd; 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Seiat yr Ofalaeth.
Mawrth, 4 Rhagfyr: 7yh, Y Sied.
Mercher, 5 Rhagfyr: 7yh, Clwb Ieuenctid.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





-(1).jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.