THE latest community news from Pwllheli

Capel y Drindod

FORE Gwener, 25 Ionawr: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol (Yr Ala); 7yh, Cymdeithas Ddiwylliannol.

Sul, 27 Ionawr: 10yb a 5yh, Parch Ioan Wyn Gruffydd; Ysgolion Sul fel arfer.

Llun, 28 Ionawr: 2yp, Aelwyd y Chwiorydd; 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Seiat yr Ofalaeth.

Mawrth, 29 Ionawr: 7yh, Y Sied.

Mercher, 30 Ionawr: 7yh, Clwb Ieuenctid.

Merched y Wawr

CYNHALIWYD cyfarfod cyntaf y flwyddyn ar 10 Ionawr, dan lywyddiaeth Mair Lloyd Davies.

Dymunodd Flwyddyn Newydd Dda a llewyrchus i’r aelodau oedd yn bresennol, a braf oedd gallu croesawu aelod newydd i’r gangen, sef Ann Jenkins, sydd wedi ymgartrefu ym Mhwllheli ers misoedd.

Hefyd, braf oedd cael cwmni Iona Wyn wedi misoedd o anhwylder.

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Gwen Morris Jones, Rhiannon Hughes, Margaret Hughes, Rose a Lydia.

Dymuniadau gorau am wellhad buan ac y byddent yn well erbyn y cyfarfod nesaf.

Cafwyd dipyn o fraw o ddeall fod Christine, yr ysgrifenydd, wedi ei rhuthro i Ysbyty Gwynedd yn ystod y prynhawn.

Gobeithio y bydd yn holliach yn fuan, ac yn ôl yn ein plith mis nesaf.

Y gwraig wadd ar y noson oedd Meinir Roberts, Tanrallt, Llangian.

Brodor o Rhuthin yn wreiddiol, ond wedi ymgartrefu ym Mhen Ll?n ers rhai blynyddoedd.

Mae’n byw ar fferm sy’n cadw gwartheg eidion, defaid a ieir, ond dileit Meinir yw’r defaid ac mae’n ymddiddori mewn trin a defnyddio eu gwlân.

Braf oedd gweld y droell yn newid darn o wlân y ddafad oedd wedi ei olchi a’i gribo yn cael ei draws newid yn wlân yn barod i’w weu.

Agoriad llygaid i rai ohonom.

Cawsom weld amrywiaeth o bethau roedd Meinir wedi ei wneud o’r gwlân.

Mair Lloyd Davies, llywydd y noson a roddodd air o ddiolch i Meinir am noson gartrefol a phleserus, hefyd i Marilyn, Katherine ac Eirlys am y baned ar fisgien.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]