THE latest community news from Pwllheli

Clwb y Bont

BRODYR Bryngolau, Llanbedrog oedd testyn sgwrs T Victor Jones, ysgrifennydd y clwb mewn cyfarfod diweddar. T? yng nghanol y pentref ydi Bryngolau, lle cododd Harri a Catherine Jones naw o blant.

Aeth pump o’r hogia i’r môr yn ifanc ar longau hwyliau. Boddwyd Robert a syrthiodd Thomas oddi ar hwylbren yr Evelyn.

Hwyliodd Harri yn eang a gwasanaethu yn y Rhyfel Mawr. Drylliwyd llong John, y Caernarfon Bay yn Awstralia ond fe’i hachubwyd.

Bu farw William yn Nantucket. Daeth Griffith yn adeiladydd enwog yn Rochester, UDA. Mae disgynydd iddo yn gysylltiedig â’r elusen Save the Children Fund. Teulu anturus o bentref bach Llanbedrog.

Capel y Drindod

GWENER, 15 Chwefror – 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol. Sul, 17 Chwefror – 10yb a 5yp, Gweinidog. Ysgolion Sul fel arfer. 7yh, Oedfa’r Ddwy Ofalaeth. Llun, 18 Chwefror – 6yh Clwb y Plant. 7.30yh Seiat yr Ofalaeth. Mawrth, 19 Chwefror – 7yh, Aelwyd y Chwiorydd. Mercher, 20 Chwefror – 7yh Clwb Ieuenctid.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]