THE latest community news from Pwllheli

Aelwyd Chwiorydd Capel y Drindod

PRYNHAWN Llun, 25 Ionawr cynhaliwyd cyfarfod o Aelwyd y Prynhawn. Llywydd y cyfarfod oedd Liz Williams, hi hefyd gymerodd at y gwasanaeth dechreuol. Yna cyflwynodd y wraig wadd, Rhian Jones, Rhosfawr a oedd wedi darparu cwis ar ein cyfer.

Roedd y baned yng ngofal Morfydd Roberts a Catherine Hefina. Nos Fawrth, 8 Chwefror cynhaliwyd cyfarfod o Aelwyd yr Hwyr. Llywydd y noson oedd Eirlys Jones a chafwyd ganddi wasanaeth dechreuol ar y thema Mis Chwefror. Yna cyflwynodd y g?r gwadd, sef Edwin Humphreys.

Ei bwnc oedd Dyfodol Ysbyty Bryn Beryl a soniodd am y project efo Ysgol Llywelyn, am gynllun ‘Anti Glenda (Glenda Roberts) efo dioddefwyr Dementia, ynghyd â rhai agweddau eraill o’r gwaith sy’n mynd ymlaen yno, hefyd Hafod Hedd. Diolchwyd iddo gan Christine Jones a gofalwyr y te oedd Gwynedd Sol Owen ac Ann Jones. Prynhawn Llun, 11 Chwefror cynhaliwyd cyfarfod o Aelwyd y Prynhawn a’r llywydd oedd Elsie Hughes, a gymerodd y gwasanaeth dechreuol.

Yna cafwyd ‘Dan Fridog Lleuad Fedi’ gan y g?r gwadd Elfed Gruffydd. Cafwyd orig ddiddorol iawn yn ei gwmni yn trafod cysylltiad Pwllheli â’r Rhyfel Byd Cyntaf, ffyrdd o godi arian i’r bechgyn, ‘Egg Day’ miliwn o wyau, hefyd ymgyrch Cofiwch y Morwyr.

Roedd Mr Gruffydd hefyd wedi cael allan cofebau y capeli. Mwynhawyd paned dan ofal Ann Jones a Dilys Jones. Nos Fawrth, 19 Chwefror cynhaliwyd cyfarfod o Aelwyd yr Hwyr, sef Noson yr Aelodau, tipyn o frethyn cartref. Cafwyd popeth, o arddangosfa Jona Jones, i fonolog gan Kevin Roberts, hefyd nabod y gerddoriaeth gan Morfydd Roberts. Roedd y baned dan ofal Elen Mai a Dilys Jones.

Clwb y Bont

I DDATHLU G?yl Dewi daeth y pysgotwr a’r bardd o Aberdaron, Huw Erith atom.

Y môr a’i gyfnewidiol dymherau oedd ei destun a chawsom doreth o atgofion a hanesion wedi eu cyfoethogi gan gerddi ac englynion cofiadwy yn iaith gyhyrog Ll?n.

O sefyllfaoedd o enbydrwydd ei hunan, i’r degau o golledion a fu oddi ar gilfachau a phyrth y penrhyn, gwelwyd pam fod raid parchu’r môr waeth be fo’r tywydd. O Borth Meudwy i Benycil a’r Parwyd, mae yn ?r sydd mewn undod â’i ardal.

Mae tri o’i feibion yn dilyn gyrfaoedd ar y môr a dydi hynny ddim syndod.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]