THE latest community news from Pwllheli

Capel y Drindod

GWENER, 12 Ebrill: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol.

Sul, 14 Ebrill: 10yb a 5yh, Parch Gerallt Lloyd Evans; Ysgolion Sul fel arfer.

Llun, 15 Ebrill: 10.30yb, Oedfa Undebol y Grawys yn Eglwys Sant Joseff.

Mawrth, 16 Ebrill: 7yh, Y Sied.

Merched y Wawr

CROESAWYD pawb gan y Llywydd Enid Roberts.

Derbyniwyd ymddiheuriadau a chroesawyd Marilyn yn ôl wedi cael noson yn yr ysbyty.

Atgoffwyd pawb am yr ?yl Wanwyn dydd Sadwrn.

Darllenwyd a thrafodwyd rhannau o gofnodion pwyllgor rhanbarth. Yna croesawyd Mali i’n plith.

Mae Mali yn ferch prysur iawn, rhoddwyd darlun o’i gwaith gyda Cwmni Da.

Wedi derbyn wythnos o brofiad gwaith gyda ‘Hel Straeon’ yn y ‘90au, fe ysgogwyd Mali i fynd i’r byd y cyfryngau.

Wedi graddio aeth i weithio gyda cwmni Antena ac yna Uned 5 ac i Cwmni Da. Cafwyd rhagflas o’i gwaith gyda lluniau o’r cynhyrchiadau.

Yna cafwyd ei hanes yn ymuno gyda Bad Achub Porthdinllaen, erbyn hyn mae hi wedi hyfforddi ac yn gymwys i modwyo (navigate) ac yn gwneud y gwaith yno wrth fynd allan i’r môr.

Noson ddiddorol iawn â Mali yn amlwg yn mwynhau ei swyddi. Diolchwyd iddi gan Enid a diolchwyd i ferched y te.

Capel Penlan

AR 14 Ebrill bydd gwasanaeth dan ofal Parch Gerallt Lloyd Evans am 2yh.

Ac ar nos Iau, 18 Ebrill, byddgwasanaeth cymundeb am 7yh dan ofal y gweinidog, Glenys Jones.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]