THE latest community news from Pwllheli

Capel y Drindod

GWENER, 17 Mai: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol.

Sul, 19 Mai: 10yb, gweinidog; Ysgolion Sul fel arfer; 5yh, Oedfa Undebol Cymorth Cristnogol yng Nghapel Penlan; 7yh, Oedfa’r Ddwy Ofalaeth.

Llun, 20 Mai: 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Cyfarfod Gweddi neu Seiat yr Ofalaeth.

Mawrth, 21 Mai: 7yh, Y Sied.

Mercher, 22 Mai: 7yh, Clwb Ieuenctid.

Merched y Wawr

CYFARFU Merched y Wawr Pwllheli, nos Iau, 2 Mai am 7yh yn Festri’r Drindod.

Cafwyd gair o groeso gan y llywydd, Rhiannon Hughes, un bennill o gan Merched y Wawr a Mari’n cyfeilio.

Ymddiheuriadau gan Menna, Ann Jenkins, Mair Lloyd Davies, Gwyneth Roberts a Gwen Morris Jones.

Croesawyd Katherine Hilton yn ôl wedi gwella, cafwyd adroddiad bod yr ?yl Wanwyn yn llwyddiant. Kathleen wedi derbyn dau cyntaf, Mair wedi derbyn ail.

Darllenwyd cofnodion mis Ebrill a’u cael yn gywir.

Trefnwyd i gasglu sbwriel bore Mercher am 9.30yb, Pat, Margo, Rose, Dilys, Val a Mair Lloyd Davies.

Dymunwyd yn dda i tîm darts fydd yn cystadlu yn ‘G?yl Fai’ dydd Sadwrn, 18 Mai.

Gofynwyd i bawb archebu cardiau Nadolig, cardiau cyfarch a dyddiaduron.

Hefyd rhoi eu henwau ar gyfer y 9fed a £5 i ymweld ac Islyn, Aberdaron.

Roedd papur yn mynd o gwmpas i rhoi enwau ar gyfer taith Llanberis – mae angen mwy o enwau neu mi fydd yn ddrud – felly mae gofyn i ffrindiau.

Yna dewiswyd swyddogion. Pasiwyd i godi £2 o fis Medi. Yna cafwyd gair gan Victor Jones pan aeth i weithio i D? Newydd, Llanystumdwy a chyfarfu ac Arthur Maiden (billboards), Gwilym Roberts (bailiff), John Pater (ffrind o Holland), Dafydd Glyn (cadw siop), Stewart Jones (Ifans y Tryc), Jan Morris (reporter a sgwenu llyfrau) a Frances Stevenson (ail wraig Lloyd George).

Diddorol oedd clywed ychydig o hanes am bawb a sut oedd y cysylltiadau yn rhwymo a’u gilydd.

Diolchwyd iddo gan y llywydd – fe ddiolchodd i Christine am ei holl gwaith.

Capel Penlan

GWASANAETH Undebol Cristnogol am 5yh.

Cynhelir bore coffi Cymorth Cristnogol fore Gwener, 17 Mai am 10.30yb.

Bydd bwrddau gwerthu rafflau a stondyn cynnyrch Masnach Deg.

Bydd te neu goffi a bisgedi ar gael.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]