THE latest community news from Pwllheli
Charity shop
THE recent ‘Pop-up’ shop on the High Street (pictured right) raised £733 towards the financing of drilling a water bore-well in the village of Okokoma, Nigeria.
The survey of the area has now been completed and work on the well should start shortly. A huge debt of gratitude to the generosity of the townspeople, visitors, volunteers manning the shop and the donators. The second week of the shop business was for the general upkeep of the Parish churches of the Most Holy Redeemer in Porthmadog and St Joseph’s, Pwllheli, and this amassed the figure of £570 (less rent).
Merched y Wawr
DYLINO fu 24 ohonom yn y cyfarfod ym Mecws Islyn, Aberdaron, a sôn am hwyl.
Y ddwy dorth orau oedd gan Lydia a Megan ond roedd gan bawb dorth dda iawn i fynd gartref. Yna cafwyd sgwrs gan Geraint am eu hanes yn cychwyn y becws a’u cynlluniau i’r dyfodol gyda’r becws a’r Hen Felin.
Yna paned a theisen o’n dewis i orffen.
Diolchwyd i Geraint a Gillian am eu holl waith ac am gadw a rhedeg becws Cymreig mewn pentref arbennig.
Darllenwyd llythyr o’r mudiad yn llongyfarch y gangen am dderbyn Canmoliaeth Uchel yng nghystadleuaeth Rhaglen y Flwyddyn.
Bu Mair Williams a Mair Lloyd Davies yn teithio i Fachynlleth i dderbyn tystysgrif ar 18 Mai.
Y ddwy fu’n gyfrifol am yr holl waith gyda’r rhaglen a Mair Williams a’i syniadau gwych bob blwyddyn gyda chynllun y clawr.
Atgoffwyd aelodau am ddigwyddiadau sydd yn dod i fyny yn yr wythnosau nesaf.
Noson ffasiwn ym Mhlas Boduan (23 Mai) i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ac atgoffwyd pawb am y daith ar 6 Mai.
Anfonwyd cofion a chydymdeimlad at Mary Lloyd Griffith sydd ym Mhlas Y Don, bu iddi golli chwaer yn ddiweddar.
Llongyfarchwyd Lena Pritchard ar briodas ei hwyres.
Diolchwyd i Ifan am gludo yr aelodau i Aberdaron ac edrych ar eu holau yn ei ffordd annwyl fel yr arfer.
Gardd Agored
CYNHELIR gardd agored yn y Ficerdy, Yr Ala, ddydd Sadwrn, 1 Mehefin am 2yp.
Dewch yn llu bydd croeso cynnes i bawb yn y Ficerdy.
Exhibition
A MYTHS and Legends exhibition will be held at St Peter’s Church, on 25-31 May and will be open daily from 10am until 4pm.
Art work by pupils from both Ysgol Cymerau and Ysgol Foel Gron at Mynytho.
Free entry and refreshments are available.
The exhibition is a part of the Ll?n Arts Festival which runs 24 May until 2 June at various locations around Pen Ll?n.
Capel y Drindod
GWENER, 24 Mai – 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol.
Sul, 26 Mai – 10yb, Diacon Stephen Rowe; Ysgolion Sul fel arfer; 5yh Parch Dewi Morris.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]




-(1).jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.