THE latest community news from Pwllheli
WI
THE last meeting was held on 1 October at the Ala Road Chapel Vestry.
President Daphne Jones was in the chair for a business and general discussion meeting, with three new prospective members present.
The raffle, donated by Eirwen Griffith was won by Pat Parry and the tea hostess was Wendy Blackwell.
The next meeting will be on 5 November and will be the AGM and WI adviser visit.
New members always welcome.
Merched y Wawr
CROESAWYD pawb gan Christine Jones yn abesenoldeb Marilyn, llywydd y noson, oedd adref yn sâl.
Ymestynwyd croeso cynnes i Bryn Pritchard Jones i’n plith, swyddog adran Morwrol a Parciau Gwledig yn gweithio i Gyngor Gwynedd. Mae Bryn yn briod gyda dau o blant (Celt, 10 oed ac Eva yn chwech) ac yn byw yn Clynnog Fawr. Bu yng ngholegau Caerdydd a Bangor.
Dechreuodd y noson am 7yh gyda’r g?r gwadd yn dangos lluniau arfordir sy’n ymestyn i lawr i Aberdyfi a bod cyfanswm o 301km o dan ei gofal i gyd. Dipyn o waith cadw golwg ar hyn i gyd.
Roedd y lluniau yn dangos prysurdeb y traethau.
Roedd y wardeiniau yn gweithio’n dymhorol ac yn egluro sut bethau oeddant yn eu gwneud, cymhorth cyntaf, cadw’r lle yn lân rhag sbwriel, cynghori ynglyn â deddfau cychod (pelimelyn) a c?n!
Y Baner Glas – eglurodd sut oeddant yn arbrofi d?r y môr a llawer o amodau eraill.
Diolchwyd i Bryn am noson difyr iawn, gan Margaret Hughes, yna cafwyd paned.
Darllenwyd y cofnodion gan Christine Jones a derbynwyd ymddiheuriadau gan Iona, Ann Jones, Olive, Laura, Margaret Griffith a Marilyn.
Danfonwyd cofion y gangen at Marilyn a llongyfarchwyd Eirlys ar ddod yn hen nain i Mabon.
Roedd pawb yn falch o weld Menna yn ôl ar ôl damwain bach a danfonwyd ein cofion at Olive wedi colli chwaer yng nghyfraith.
Croesawyd aelod newydd i’n plith, sef Bethan a gobeithio y bydd yn hapus yn ein cwmni y gwnaiff fwynhau bod yn aelod o’n cangen bach hwyliog ni yma ym Mhwllheli.
Dewiswyd Megan, Kathleen, Mari, Mair Williams, Bethan, Sian Williams ac Enid i fod yn aelodau o dîm cwis hwyl y gangen (8/11/19) ac am ofyn i Gwen Morris Jones a Katherine Hilton hefyd.
I ddarfod y noson fe cyd-ganwyd cân MyW, gyda Mari yn cyfeilio.
Capel y Drindod
GWENER, 11 Hydref: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol.
Sul, 13 Hydref: 10yb, Parch Cath Williams; Ysgolion Sul fel arfer; 5yh, Eddie Griffith.
Llun, 14 Hydref: 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Cyfarfod Gweddi neu Seiat yr Ofalaeth.
Mawrth, 15 Hydref: 7yh, Aelwyd y Chwiorydd.
Mercher, 16 Hydref: 7yh, Clwb Ieuenctid.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






-(1).jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.