THE latest community news from Pwllheli
Clwb y Bont
ARAN Jones, sefydlydd y cwrs dysgu Cymraeg ‘Say Something in Welsh’ oedd y siaradwr gwadd ar 4 Tachwedd.
Disgrifiodd sut cychwynnodd y cynllun 10 mlynedd yn ôl ar y wê a chafwyd ymateb llawer uwch na’r disgwyl.
Yn ychwanegol ‘roedd yr aelodau yn cysylltu’n ôl i drafod eu gofynion.
Tyfodd y cynllun i dros 5,000 o aelodau mewn blwyddyn.
Cyfeiriodd at y problemau oedd yn rhaid eu datrus ac at yr hwb a gafwyd yn dilyn y drafodaeth a’r darlledydd Jeremy Vine.
Mae’r fethodoleg a ddefnyddiwyd bellach ar waith i ddysgu Saesneg a hynny y fodd i ariannu’r cwrs Cymraeg.
Bore coffi
CYNHELIR bore coffi yn Festri Capel Penlan ar dydd Mercher, 20 Tachwedd, o 10.30yb ymlaen.
Bydd yr holl elw yn mynd tuag at Beiciau Gwaed Cymru/Blood Bikes Wales.
Y g?r gwadd fydd Gary Frost, un o’r beicwyr.
Bydd raffl ar gael hefyd.
Capel y Drindod
GWENER, 8 Tachwedd: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol; 7yh, Cymdeithas Ddiwylliannol.
Sul, 10 Tachwedd: 10yb, Elfed Gruffydd; Ysgolion Sul fel arfer; 5yh, Parch Harri Parri.
Llun, 11 Tachwedd: 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Cyfarfod Gweddi neu Seiat yr Ofalaeth.
Mawrth, 12 Tachwedd: 7yh, Aelwyd y Chwiorydd. Mercher, 13 Tachwedd: 7yh, Clwb Ieuenctid.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.