THE latest community news from around Pwllheli.
Ala Road
MORNING worship at the English Presbyterian Church this coming Sunday, 16 October, will be led by the minister, Rev W Bryn Williams. The service starts at 11.15am and a warm welcome is extended to all.
Clwb y Bont
Y SIARADWRAIG wadd yng nghyfarfod cyntaf y tymor ar nos Lun, 3 Hydref oedd Bethan Wyn Jones o Talwrn. Cyflwynwyd hi, gan Eric Jones, fel Darlledwraig, awdur, botanegydd, colofnydd a chynhyrchydd.
Cafwyd sgwrs hynod ddiddorol ganddi yn dilyn Llwybr Arfordir Môn gan gychwyn ger y Traeth Coch. Dangosodd luniau o’r planhigion amrywiol a welir ar y daith gan gyfeirio at eu rhynweddau a’u defnyddioldeb.
Cyfeiriodd hefyd at arbenigrwydd a hanes y gwahanol draethau a chilfachau, fel Traeth Bychan, Moelfre a Dulas, y pysgota am fywoliaeth a’r llongddrylliadau. Diau y ddau yn ô eto i gwblhau’r daith.
Diolchwyd iddi gan y cadeirydd, Mici Plwm.
St Peter’s Church
SUNDAY, 10.30am, Eucharist/Offeren; Monday, 9.30am, Celtic Morning/Prayer and Meditation; Tuesday, 10.30am, Eucharist/Offeren; Friday, 3.30pm, Meditation, Blessed Sacrament and Benediction/Myfyrdod, Y Sacrament Bendigaid a Bendith; Saturday, 10am, Holy Eucharist/Offeren.
The church is open between 2pm and 4pm on Tuesdays and Fridays for the foodbank.
Aelwyd Chwiorydd
CYNHALIWYD cyfarfod cyntaf y tymor o aelwyd y prynhawn Capel y Drindod ddydd Llun, 3 Hydref. Y llywydd oedd Eirlys Jones a hi hefyd gymerodd y defosiwn dechreuol. Yna, soniodd am rodd hael iawn gan Rhiannon Williams a chyhoeddodd bod Ann Jones wedi cytuno i gymeryd swydd yr is-drysorydd.
Anfonwyd cofion at Mary Lloyd Griffith sydd ddim yn dda ei hiechyd.
Roedd gwr gwâdd y pnawn, Robat Morris o Benygroes, yn gyfarwydd i bawb. Defnyddiodd ei wybodaeth eang o hanes ei dref enedigol i fynd â’r aelodau drwy hanes hen Bwllheli. Soniodd am y diwydiant adeiladu llongau ac am y môr ladron, hefyd am adeiladu y ‘Town Hall’ (Neuadd Dwyfor, erbyn hyn).
Cyfeiriodd yn ychwanegol at ddyfodiad y trên i Bwllheli, adeiladu y Cob a’r Cob Bach, ac am waith Solomon Andrews o Gaerdydd yn troi y dref yn dref glan y môr go iawn.
Diddorol hefyd oedd clywed am y bwrlwm diwylliannol oedd yn y dref a llawer o agweddau eraill.
Mwynhawyd y sgwrs yn fawr gan bawb a diweddwyd y pnawn gyda phaned.
Catholic Masses
ST JOSEPH’S, Pwllheli: Sunday, 10.30am, English; Saturday, 6.30pm, Welsh.
Church of the Most Holy Redeemer, Porthmadog: Sunday, 9am, English.
Oedfaon y Sul
CAPEL Seion, 10yb, Parch Ddr. J Hurd, cadeirydd Synod Cymru.
Capel Penlan: 10yb, Parch Carwyn Siddall, Llanuwchllyn.
Capel y Drindod
GWENER, 14 Hydref: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol. Sul, 16 Hydref: 10yb a 5yh, Oedfaon yng ngofal y gweinidog; Ysgolion Sul fel arfer; 7yh Oedfa Arbennig o Fawl. Llun, 17 Hydref: 10yb a 7.30yh, Oedfaon Diolchgarwch; 2yh, Aelwyd y Chwiorydd; 6yh, Clwb y Plant. Mercher, 19 Hydref: 7yh, Clwb Ieuenctid.
Merched y Wawr
WRTH ddathlu’r Wyl Ddiolchgarwch fu aelodau’r gangen yng nghyfarfod mis Hydref drwy gân a darlleniadau a gwledd o fwydydd blasus iawn.
Trefnydd ac arweinydd y noson oedd Mair Lloyd Davies. Llywyddwyd gan Enid Roberts a chroesawyd aelodau newydd atom. Y cyfeilydd oedd Mari Evans.
Cymerwyd rhan gan Margaret Gruffydd, Dilys Williams a Lena Pritchard a gwestion y te oedd Pat Parry, Gwyneth Roberts, Enid Roberts a Iona Wyn Roberts.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.