THE latest community news from around Pwllheli.

Ala Road

MORNING worship at the English Presbyterian church this coming Sunday, 23 October, will be led by Edward Morris Jones. The service starts at 11.15am, and a warm welcome is extended to all.

Aelwyd Chwiorydd

CYNHALIWYD cyfarfod y tymor o Aelwyd yr Hwyr, Chwiorydd y Drindod nos Fawrth, 12 Hydref. Llywyddwyd gan Morfydd Roberts. Hi hefyd arweiniodd y defosiwn dechreuol gyda darnau o farddoniaeth a gweddi ar y themau ‘Ar Fy Nelw’ a ‘Gwarchod y Cread’.

Soniodd hefyd am rodd hael Rhiannon Williams a dywedodd fod Ann Jones wedi cytuno i gymryd y swydd fel is-drysorydd.

Y Parch Harri Parri o Caernarfon oedd y gwr gwadd ac yn ei ffordd ddihafael a rhadlon ei hun, dilynnodd ei hanes yn y weinidogaeth o’i alwad cyntaf ym Meirionnydd, yna ardaloedd eraill cyn cyrraedd Seiloh yng Nghaernarfon.

Soniodd fel yr oedd cymdeithasau yn wahanol, gyda gofynion gwahanol ym mhob ardal.

Crybwyllodd hefyd at bwysau y swydd, ac iddo droi at ysgifennu a mynd i Borth yr Aur am ddihangfa. Mwynhawyd ei ymweliad gan bawb a diweddwyd y noson ddiddorol gyda phaned.

St Peter’s Church

SUNDAY, 10.30am, Eucharist/Offeren; Monday, 9.30am, Celtic Morning/Prayer and Meditation; Tuesday, 10.30am, Holy Eucharist/Offeren Sanctaidd; Friday, 3.30pm, Meditation, Blessed Sacrament and Benediction/Myfyrdod, Sacrament Bendigaid a Bendith; Saturday, 10am, Holy Eucharist/Yr Offeren Sanctaidd.

The church will be open between 2pm and 4pm on Tuesdays and Fridays for the foodbank.

Oedfaon

CAPEL Seion: 10yb, Glyn Owen, Dinas, Caernarfon.

Capel Penlan: 10yb, Parch Casi Jones, Clynnog.

Catholic Masses in the Parish

ST Joseph’s, Pwllheli: Sunday, 11.30am, English; Saturday, 6.30pm, Welsh.

Church of the Most Holy Redeemer, Porthmadog: Sunday, 9am, English.

Cymdeithas Hanes

CYNHELIR ail gyfarfod y tymor o gangen leol Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd nos Wener, 21 Hydref. Gwraig wadd y noson fydd Rhian Williams a bydd yn sôn am ‘Byw ar y Fferm’.

Cynhelir y cyfarfod yn festri Capel y Drindod a dechreuir am 7yh.

Capel y Drindod

GWENER, 21 Hydref, 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol. Sul, 23 Hydref, 10yb, Oedfa yng ngofal Nia Williams. Ysgolion Sul fel arfer. 5yh, Oedfa yng ngofal y Parch Deian Evans. Llun, 24 Hydref, 7.30yh, Cyfarfod Gweddi’r Ofalaeth. Mawrth, 25 Hydref, 7yh, Aelwyd y Chwiorydd.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]