THE latest community news from around Pwllheli.

Cymdeithas Ddiwylliannol

AGORWYD tymor Capel y Drindod nos Wener, 4 Tachwedd yng nghwmni Angharad Thomas. Daeth nifer ynghyd i wrando arni, a chyflwynwyd hi gan y llywydd, Lydia Jones.

Pwysleisiodd y wraig wadd mor bwysig ydyw i ddal gafael ar hen lythyrau, erthyglau a lluniau teuluol er mwyn cael hel achau o’r gorffennol.

Dywedodd ei bod hi wedi dod o hyd i rai o’i theulu oedd yn Wesleiaid yn Aberdaron ers talwm. Ychwanegodd ei bod yn bwriadu mynd i’r Iwerddon yn ystod y flwyddyn nesaf er mwyn cael mwy o wybodaeth amdanynt.

Cafwyd lluniaeth ysgafn ar ddiwedd y cyfarfod wedi ei drefnu gan y pwyllgor.

Diolchwyd i bawb am noson gartrefol ddifyr gan Enid Roberts.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar nos Wener, 11 Tachwedd, pryd y bydd un o’r aelodau, sef Richard D Williams yn sôn am ardaloedd ym Mhen Llyn.

WI

The annual meeting of the evening branch was held on Tuesday, 1 November. President Elinor Rhys Williams welcomed the members and gave a warm welcome also to Margaret Lloyd Jones, Abererch, who was present as the county advisor to oversee the proceedings.

The president thanked all members for their support and attendance to ensure a successful and enjoyable year.

A report of the year’s activities was presented by the secretary, Dilys Williams and a healthy balance sheet was presented by the treasurer, Sandra Jones.

Under the supervision of Mrs Lloyd Jones, officers and committee members for the coming year were elected as follows: President, Elinor Rhys Williams; vice-presidents, Joyce Griffith and Daphne Jones; secretary, Dilys Williams; assistant secretary, Maureen Jones; treasurer, Sandra Jones; assistant treasurers Lydia Jones and Ann Owen; press officers, Sylvia Williams and Sandra Jones; programme co-ordinators, Maureen Jones and Janet Owen; social secretaries, Helen Owen and Sylvia Williams; committee members all officers and Sian Evans, Eryl Lobley, Margaret Roberts and Pat Lloyd Roberts.

The tea hostesses were Margaret Roberts and Sylvia Williams. The raffle prize, given by Ann Owen was won by Sian Evans.

The next meeting will be on Tuesday, 6 December in the Ala Road chapel vestry at 7pm when a talk will be given about her fudge making business, ‘Eboni ac Eifori’ by Linda Robinson. New members always welcomed.

Aelwyd Chwiorydd

LLYWYDDWYD cyfarfod o Aelwyd y Pnawn, Chwiorydd y Drindod ddydd Llun, 31 Hydref gan Catherine Hefina Jones. Hi hefyd arweiniodd y defosiwn dechreuol ar thema ‘Ffydd’.

Gwr gwadd y pnawn oedd Mici Plwm ac roedd wedi dod â chist gydag ef yn llawn o eitemau a gasglodd ar ei amrywiol deithiau.Treuliwyd pnawn hynod ddiddorol yn ei gwmni, gyda stori fach am bob eitem a chlywyd am ambell ddigwyddiad diddorol hefyd.

Soniodd yn ogystal am ei ymweliad ag Ynys Enlli, Wicklow yn Iwerddon, hefyd yr India gyda John Pierce Jones a Phatagonia. Mawr fwynhawyd ei sgwrs gan bawb a diolchwyd yn gynnes iddo. Diweddwyd y pnawn fel arfer gyda phaned.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]