THE latest community news from Pwllheli
Ala Road
MORNING worship at the English Presbyterian church, Ala Road this coming Sunday, 20 November will be led by the minister, Rev W Bryn Williams. The service starts at 11.15am and a warm welcome is extended to all.
Clwb y Bont
LLYR Titus o Brynmawr oedd y siaradwr gwadd yng nghyfarfod Tachwedd. Cyflwynwyd ef gan ei gyn-athro Penri Jones, a gyfeiriodd at ei orchestion yn ennil Gwobr Tir na nog a Choron Eisteddfod yr Urdd. Prif ddiddordebau Llyr, ar wahan i ysgrifennu, yw mytholeg celtaidd ac archeoleg. Yn ei sgwrs aeth â’r aelodau i safle archeolegol Meillionydd ar lethrau mynydd Rhiw. Mae’r safle yn dyddio’n ôl i ddiwedd yr Oes Efydd a bu pobl yn byw yno am dros 600 mlynedd. Tai crynion o goed a gafwyd i ddechrau, ac yna rhai o gerrig o fewn rhagfuriau dwbl a mynedfa deulawr gydag oddeutu 20 i 40 o drigolion yno. Gwelwyd lluniau o rai o’r darganfyddiadau ar y safle, gan gynnwys, addurniadau glaswyrdd a muchedd a cerrig crynion tyllog i droi cnu yn edafedd i wneud dillad. Tyfu cnydau, cadw anifeiliaid a hela oedd eu prif gynhaliaeth, a dyma ‘r ffordd o fyw sydd wedi parhau yn y lle yma dros y canrifoedd. Diolchwyd yn gynnes i Llyr am sgwrs ddiddorol iawn gan Alun Jones.
Catholic Masses
ST JOSEPH’S, Pwllheli: Sunday 9am English; Saturday 6.30pm English, Church of The Most Holy Redeemer, Porthmadog: 11.30am English.
Aelwyd Chwiorydd
CYNHALIWYD cyfarfod o Aelwyd yr Hwyr, Chwiorydd y Drindod ar nos Fawrth, 8 Tachwedd, gyda Jane Lloyd yn llywyddu. “Tachwedd” oedd thema’r defosiwn dechreuol. Mwynhawyd cwmni Carol a Myfanwy o ffatri “Welsh Lady” Y Ffôr, a chlywyd bod y busnes gwneud jamiau wedi ei sefydlu yn 1966. Dechreuwyd y busnes ar fwrdd y gegin ac fel y cynyddodd symudwyd i’r hen wersyll carcharorion rhyfel ger Y Ffôr. Mae Carol â’i phriod, John, wedi bod yn Japan i ymweld â ffair jamiau cartref a chael golwg ar beth mae cwmnïau eraill yn ei gynhyrchu, maent hefyd wedi bod yn Efrog Newydd. Gadawodd Carol ei swydd fel athrawes i weithredu fel swyddog datblygu y busnes. Maent bellach yn allforio i bob rhan o’r byd. Ar ddiwedd ei sgwrs roedd cyfle i flasu a phrynu cynnyrch cyn diweddu’r cyfarfod gyda phaned.
St Peter’s
SUNDAY, 10.30am Eucharist / Offeren; Monday, 9.30am Celtic Morning / Prayer and Meditation. Tuesday, 10.30am Holy Eucharist / Offeren; Friday, 3.30pm Meditation, Blessed Sacrament and Benediction / Myfyrdod, Y Sacrament Bendigaid a Bendith. Saturday, 10am Holy Eucharist / Offeren Sanctaidd.The church is open between 2pm and 4pm on Tuesdays and Fridays for the Food Bank.
Oedfaon
CAPEL Seion: 10yb Parch Fred Hughes, Nefyn; Capel Penlan: 10yb Parch Ioan W Gruffydd, Pwllheli.
Capel y Drindod
GWENER,18 Tachwedd - 10yb Cyfarfod Gweddi Undebol.Sul, 20 Tachwedd - 10yb a 5yh Oedfaon yng ngofal y Gweinidog. Ysgolion Sul fel arfer, 7yh Oedfa o Fawl.Llun, 21 Tachwedd - 6yh Clwb y Plant, 7.30yh Astudiaeth Feiblaidd.Mawrth, 22 Tachwedd - 7yh Ffair Nadolig Aelwyd y Chwiorydd.Mercher, 23 Tachwedd - 7yh Clwb Ieuenctid.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.