THE latest community news from Pwllheli.

Clwb y Bont

DAETH nifer dda o’r aelodau a’u gwragedd i Ginio Nadolig y Clwb. Y siaradwr gwadd oedd Aneurin Phillips o Gonwy, cyn-brif weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri. Trwy gyfrwng lluniau a cherddoriaeth, aeth â’r aelodau yn gyntaf ar daith i fynyddoedd yr Himalaya yn Nepal. Yn y lluniau ardderchog gwelwyd peth o fywyd y brodorion yn ogystal ag anferthedd y mynyddaedd lle trigant. Aeth yr ail daith a’r aelodau i Alaska lle treuli-odd Aneurin gyfnod yn tynnu lluniau yr Eirth Brown. Gwelwyd lluniau agos o’r creaduriaid peryglys yma yn pysgota am eogiaid a chregyn ac yn magu eu cenawon. Diochwyd i Aneurin am noson ddiddorol gan Meic Sol Owen a Mici Plwm.

WI

PRESIDENT Elinor Rhys Williams welcomed Linda Robertson of Eboni ac Eifori as guest speaker at a meeting of the evening branch, on Tuesday, 6 December. In a most interesting talk Linda explained how she had started her fudge making business. She had brought along samples of the fudge for the members to taste and purchase if they wished, and she was thanked by Joyce Griffith.During the business part of the meeting arrangements for the Christmas dinner at Tremfan Hall, Llanbedrog on 15 December were finalised. The evening ended with a cup of tea and mince pies provided by Sian Goodman Jones and her mother, Gwen, who were the tea hostesses along with Sian Evans.The next meeting will be on Tuesday, 3 January, when the speaker will be Ann Rees of the RSPCA. Meetings are held on the first Tuesday of each month at the Ala Road chapel vestry at 7pm, and new members are very welcome to join.

Plas y Don

MWYNHAODD trigolion Cartref yr Henoed bnawn difyr iawn yng nghwmni Mici Plwm yr wythnos o’r blaen. Adroddodd dipyn o hanes Nadoligau ei fywyd cynnar yn Llan Ffestiniog, yr hwyl yn cymysgu’r pwdin Nadolig. Roedd y trigolion wrth eu boddau yn cofio difyrwch yr amser. Soniodd hefyd am wahanol wledydd yr ymwelodd â hwy dros y blynyddoedd a dangosodd eitemau a ddaeth o wahanol rannau ô’r byd. Trefnwyd y cyfarfod a chroesawyd Mici Plwm gan Evan Jones, Penrallt, a ddiolchodd am bnawn difyr. Diweddyd gyda phaned dan ofal staff y cartref.

Father Christmas

Father Christmas makes his way around the streets of Pwllheli and villages of Pen Llyn guided by the hard-working members of the Pwllheli Rotary Club and their helpers from numerous charities and organisations.

Gwasanaeth y Nadolig

CYNHELIR gwasanaeth undebol am 10yb ddydd Nadolig yng Nghapel Seion, dan arwein-iad y diacon Stephen Rowe. Gwneir casgliad at Cymorth Cristnogol. Croeso cynnes i bawb.

St Peter’s

CHRISTMAS Eve: 4pm Gwasanaeth y Preseb/Crib service; 11.30pm Midnight Mass. Christmas Day 10.30am Eucharist/Offeren.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]