THE latest community news from Pwllheli.
Gwirfoddolwr
Mae Owain Rhys, 16, o Llanarmon yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli.
Mae newydd cymryd rhan yng nghnyrchiad diweddara’r coleg oedd yn gynhyrchiad unigryw wedi ei selio ar chwedl o Sir Fôn am Wrachod Llanddona, sef Gwrachod!
Mae Owain wedi rhoi ei feddwl am fynd i’r byd meddygaeth a phob bore Sadwrn ers tua chwe mis mae yn gwirfoddoli ei amser yn gweithio yng Nghartref yr Henoed, Cartref y Pwyliaid, Penrhos yn yr adran nyrsio.
Cyn gwyliau’r Nadolig cynhaliwyd Gwasanaeth Carolau blynyddol olaf gan cyfeillion Cartref Penrhos, gydag aelodaeth y cyfeillion yn mynd yn hyn, mae penderfyniad wedi ei neud i ddod â’r casglu arian i ben.
Ac yn ystod y gwasanaeth cafodd Owain gyfle i cyflwyno cerdd yn y Gymraeg, Saesneg a hefyd rhoddodd gyfarchion y tymor mewn Pwyleg.
Clwb y Bont
Y WRAIG wadd mewn cyfarfod o’r clwb ar nos Lun, 9 Ionawr oedd Wendy Lloyd Jones, Cilan. Croesawyd a chyflwynwyd gan Elfed Gruffydd.
Rhoddodd Wendy dipyn o hanes Plwyf Llanengan yn y cyfnod rhwng 1819 a 1830. Daeth o hyd i’r hanes drwy gyfrwng 10 o lythyrau a anfonwyd o Abersoch gan Griffith ac Elizabeth William a’u teulu at ddau fab iddynt a ymfudodd i Unol Daleithiau America yn 1817.
Mae’r llythyrau, mewn iaith goeth a chyfoethog, yn rhoi darlun o werin oedd wedi dysgu darllen ac ysgrifennu trwy’r ysgolion Sul ac ysgolion cylchynol Thomas Charles cyn dyfodiad ysgolion Sirol. Gwelir hefyd cymaint y golled ar yr ardal oedd yr ymfudo a ddigwyddodd.
Darganfuwyd y llythyrau yn yr Unol Daleithiau gan Americanwr ac maent bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Mawr fwynhawyd y sgwrs ddiddorol gan bawb.
Ala Road
MORNING worship at the English Presbyterian church, Ala Road this coming Sunday, 22 January will be led by the Rev Ioan Wyn Gruffydd. The service starts at 11.15am and a warm welcome is extended to all.
Oedfaon
CAPEL Seion: 10yb Parch Gwyn Thomas.Capel Penlan: 10yb Parch Olwen Williaams, Tudweiliog.
St Peter’s
SUNDAY: 10.30am Eucharist/Offeren; Monday, 9.30am Celtic Morning/Prayer and Meditation; Tuesday, Holy Eucharist/Offeren Sanctaidd; Friday, 3.30pm Meditation, Blessed Sacrament and Benediction/Myfyrdod, y Sacrament Bendigaid a Bendith; Saturday, 10am Holy Eucharist/Offeren Sanctaidd. The church will be open between 2pm and 4pm every Tuesday and Friday for the foodbank.
Chwiorydd y Drindod
CYNHALIWYD cyfarfod o’r aelwyd ar bnawn Llun, 9 Ionawr gydag Eirlys Jones yn llywyddu. Hi hefyd arweiniodd y defosiwn dechreuol ar thema ‘Y Flwyddyn Newydd’.
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Rhian, Beryl a Morfydd. Anfonwyd cofion at Eirwen. Darllenwyd llythyr oddi wrth gofalwyr y capel.
Cyflwynwyd gwraig wadd y pnawn, sef Kit Ellis, Llwyndyrys. Mewn sgwrs ddifyr rhoddodd dipyn o hanes ei bywyd, ei dyddiau yng Ngholeg Amaethyddol Llysfasi a graddio mewn Amaethyddiaeth yn Aberystwyth.
Yn dilyn ei phriodas symudodd i Lwyndyrys i fyw, a chafodd swydd yn darlithio yn Glynllifon.
Yn ddiweddarach cyfarfu Sioned a sefydlodd y ddwy ohonynt fusnes ‘Crumbs’ yn cynhyrchu ‘shortbread’, taffi triog a jam, ac yn mynd i wahanol sioeau i werthu eu cynnyrch.
Diweddodd ei sgwrs gyda’u hanes yn cyfarfod y Dywysoges Anne a throeon trwstan yr achlysur hwnnw. Roedd cyfle i’r aelodau brynu rhai o’r nwyddau ar ddiwedd y cyfarfod.
Cymdeithas Hanes
CYNHELIR cyfarfod cyntaf y flwyddyn o gangen leol Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd ar nos Wener, 20 Ionawr. Y siaradwr gwadd fydd Gareth Neigwl yn sôn am ‘Llanddwywe a Llety’r Wyn’. Cynhelir y cyfarfod yn festri Capel y Drindod a dechreuir am 7yh.
Catholic masses in the parish
ST JOSEPH’S, Pwllheli: Sunday 9am; Saturday 6.30pm.Church of the Most Holy Redeemer, Porthmadog: Sunday 9am.
Capel y Drindod
GWENER, 20 Ionawr - 10.30yh Cyfarfod Gweddi Undebol.Sul, 22 Ionawr - 10yb a 5yh Oedfaon yng ngofal y Parch Ioan W Gruffydd. Ysgolion Sul fel arfer. Llun, 23 Ionawr - 2yh Aelwyd y Chwiorydd, 6yh Clwb y Plant, 7.30yh Cyfarfod Gweddi’r Ofalaeth.Mawrth, 24 Ionawr - 7yh Y Sied. Mercher, 25 Ionawr - 7yh Clwb Ieuenctid.
Cymdeithas Ddiwylliannol
DAETH cynulleidfa deilwng ynghyd i festri’r Drindod nos Wener, 13 Ionawr i wrando ar sgwrs gan aelod o’r capel, sef y Parch Arthur Meirion Roberts.
Testun ei sgwrs oedd Y Forwyn Goch ac ‘roedd wedi bod yn ddirgelwch mawr i bawb am bwy oedd am sôn. Datgelwyd ganddo mai Iddewes o’r enw Simone Viel ydoedd a chafwyd peth o hanes y ferch od ond arbennig hon a symudodd i Ffrainc cyn yr Ail Ryfel Byd.
Pwysleisiodd y siaradwr mai merch yn sefyll yn gryf dros iawnderau pobl ac yn rhoi sylw i bobl eraill bob amser o flaen hi ei hunan oedd Simone Viel.
Clywyd bod y diweddar Athro J R Jones o Bwllheli wedi cyhoeddi llyfr amdani rai blynyddoedd yn ôl a bod drama yn seiliedig ar ei hanes wedi ei llwyfannu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth yn ystod saithdegau y ganrif ddiwethaf.
Llywyddwyd y cyfarfod gan Richard O Ro-byns a diolchwyd i’r siaradwr am sgwrs ddifyr ac addysgiadol gan y gweinidog, y Parch W Bryn Williams.
Cynhelir y cyfarfod nesaf nos Wener, 27 Ionawr pryd y disgwylir cwmni William Edwin Jones (Wil Postman), gynt o Fynytho, sydd newydd ymddeol o’i waith, i rannu rhai o’i atgofion fel postman.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.